Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a hefyd am y cwrteisi o roi’r datganiad, neu olwg ar y datganiad, inni rai oriau ymlaen llaw—mae hynny'n ddefnyddiol iawn? Hoffwn ddechrau â meysydd lle’r wyf yn meddwl y bydd cytundeb o amgylch y Cynulliad cyfan. Rwy'n credu bod y nod o fod yn ddiwastraff a chael economi gylchol yn un pwysig, yn un uchelgeisiol, ac fel y clywsom gan Adam Price, mae'n un a rennir gan lawer o wledydd eraill erbyn hyn, yn y byd datblygedig—wel, yr hyn a arferai gael ei alw y byd sy’n datblygu; nid wyf yn siŵr a yw hi’n hollol gywir i ddefnyddio’r termau hynny erbyn hyn. Ond mae hyn yn wir yn rhan bwysig, rwy’n credu, o lawer o offerynnau treth erbyn hyn, ond, yn amlwg, yn enwedig un fel y dreth gwarediadau tirlenwi.
Nodaf y bwriad i wneud y ddeddfwriaeth yn symlach ac yn gliriach. Ni allaf farnu a ydyw ai peidio, ac rwy'n credu mai mater i’r broses graffu lawn fydd hynny bellach, ond o leiaf dyna yw eich nod, ac, wedi dweud hynny, bydd pobl nawr yn craffu ar eich gallu i’w gyflawni. Ond nid yw'n bwynt ystrydebol. Rwy’n credu bod yn rhaid drafftio deddfwriaeth, deddfwriaeth treth hyd yn oed, mewn modd mor syml ac mor eglur â phosibl. Nid yw hynny'n ei gwneud yn ddeunydd darllen amser gwely, rwy’n sylweddoli, ond, er hynny, ni ddylai fod yn ddiangen o aneglur.
Rydym yn croesawu'n arbennig cynllun grant cymunedau’r dreth gwarediadau tirlenwi, ac mae’r nod o helpu prosiectau sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, wrth gwrs, yn briodol. Rwyf hefyd yn credu ei bod yn gwbl briodol bod y cymunedau hynny sydd â seilwaith pwysig i'r economi leol, ranbarthol a chenedlaethol yn elwa’n uniongyrchol ar ryw ad-daliad o hynny, ac mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi’n gynnes.
A gaf i droi at fy mhwyntiau sydd ychydig yn fwy amheus, ond, rwy’n gobeithio, yn dal i gyflawni fy nod o fod yn adeiladol? Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y bydd gan Lywodraeth Cymru agwedd gadarn at gydymffurfio a gorfodi. A dweud y gwir, fe wnaethoch bwysleisio’r pwyntiau hynny yn eich datganiad llafar, a bydd y pwyslais yn arbennig ar warediadau gwastraff heb awdurdod. Ac rwy'n siŵr y bydd y cyhoedd yn dweud, 'Hwrê', ond byddant hefyd eisiau gwybod sut, ac nid wyf yn siŵr eich bod wedi ateb yn llawn y pwyntiau a roddwyd ichi gan Adam Price.
Nid yw’r hanes o ran tipio anghyfreithlon yn wych. Nawr, rwy’n sylweddoli mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yn bennaf yw hynny. Ond mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n credu bod y bwlch y prynhawn yma wedi ymwneud yn bennaf â sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd i gydweithredu ag awdurdodau lleol i wella gorfodaeth—un peth yw’r awdurdod refeniw treth, ond bydd yn rhaid i awdurdodau lleol fod yno o hyd yn rhan o’r gweithredoedd casglu gwybodaeth a chydymffurfio. Ac rwy’n meddwl tybed a ydych chi wir eisiau gweld gwella gorfodi, nid dim ond er budd uniongyrchol i’r Trysorlys, fel petai, ond hefyd i wella ansawdd bywyd i lawer o bobl mewn ardaloedd sy'n cael eu difetha ar hyn o bryd gan dipio anghyfreithlon anghyfrifol. Felly, rwy’n meddwl efallai fod angen ichi ystyried hynny, oherwydd mae gorfodi, yn amlwg, yn dipyn o her weithiau—go brin bod tipio anghyfreithlon yn digwydd yn agored ac yng ngolau dydd, ac mae'n un peth dweud y byddant nawr yn gorfod talu’r dreth, oherwydd, wrth gwrs, mae’n rhaid eu dal yn gyntaf.