7. 3. Datganiad: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:38, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i David Melding am y cwestiynau yna. Mae e'n iawn i nodi bod hon yn dreth anarferol, gan fod ganddi, wrth ei gwraidd, uchelgais i’w rhoi ei hun allan o fusnes, ac mae'n llwyddo i wneud hynny. Rwy’n credu bod modd gwirioneddol i wneud y gyfraith yn symlach a chliriach. Roedd y dreth dirlenwi wreiddiol yn deillio o’r 1990au cynnar. Mae wedi tyfu i fyny ers hynny, drwy gymysgedd o ddeddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd, arweiniad, Atodlenni—mae'n un o'r trethi hynny sydd wedi tyfu mewn nifer o wahanol leoedd, ac rydym yn gallu dod â hi at ei gilydd mewn un Bil newydd i Gymru.

Rwy’n diolch iddo am yr hyn a ddywedodd am y cynllun cymunedau. Mae'n rhan bwysig iawn o'r dirwedd hon. Rydym yn mynd i ymdrin ag ef yn wahanol. Rydym wir yn credu y gallwn wneud hyn mewn ffordd symlach a mwy effeithiol, ac y gallwn leihau costau gweinyddol. Ac o ystyried y ffaith bod hon yn dreth sy'n lleihau, ac felly bod yr arian sydd ar gael at ddibenion cymunedol yn gostwng yn ogystal, rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn casglu cymaint ag y gallwn o’r dreth hon at y dibenion hynny.

Gadewch imi droi at fater gwarediadau heb awdurdod a chydymffurfio a gorfodi. Mae cydymffurfio a gorfodi yn broblem arbennig o ran y dreth hon. Mae'r bwlch treth yn y dreth dirlenwi—y bwlch rhwng y swm y dylai'r dreth ei godi a'r swm y mae'n ei godi—yn 12 y cant. Ar gyfer treth dir y dreth stamp—y dreth arall y byddwn yn ei hetifeddu—mae'n 1 y cant. Felly, mae problem orfodaeth wirioneddol i’w datrys o ran y dreth hon, ac mae ein penderfyniadau i gynnwys gwarediadau heb awdurdod o fewn cwmpas y Bil yn dilyn y profiad sydd eisoes yn yr Alban ac mewn mannau eraill. Mae’r rhannau o'r Bil sy'n ymdrin â'r mater hwn yn rhannau pwysig o’r Bil. Bydd yn gorwedd ar ddau gynnig gwrthbrofadwy: bod rhywun sy'n rheoli cerbyd modur neu ôl-gerbyd neu mewn sefyllfa i’w reoli, neu berchennog, prydleswr neu ddeiliad tir lle mae gwastraff yn cael ei waredu heb awdurdod, yn cael ei drin fel pe byddai wedi achosi neu ganiatáu gwarediad yn fwriadol. Dyna sut y bydd y Bil yn siapio’r rhan hon o'i fwriadau. Nawr, gellir gwrthbrofi’r gosodiadau hynny, ac mae’r nodiadau esboniadol yn dangos sut y gellir gwneud hynny. Ond rydym yn credu y bydd wir yn newid y telerau masnach yn y maes hwn fel y bydd y cyfrifiad y mae rhywun yn ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.

O ran tipio anghyfreithlon, nid oes diffiniad cyfreithiol o dipio anghyfreithlon, ond nid y math o dipio anghyfreithlon ar raddfa fach sy'n achosi cymaint o niwsans mewn ardaloedd trefol, er enghraifft, yw pwyslais y Bil hwn yn bennaf. Rydym yn canolbwyntio ar y 60 o safleoedd anghyfreithlon hynny sy'n bodoli yng Nghymru lle mae'n ymddygiad bwriadol wedi’i drefnu, yn hytrach nag ymdrechion ar raddfa fach i geisio osgoi symiau bach o drethi. Mae fy nghydweithiwr, Lesley Griffiths, yn ymdrin â'r agweddau eraill lle mae'r Llywodraeth wedi cymryd gwahanol fathau o fesurau i gryfhau dwylo'r awdurdodau lleol, yn y ffordd yr awgrymodd Mr Melding, i ymdrin â'r agwedd honno ar weithgarwch gwastraff anghyfreithlon.