Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. I ateb yr un olaf yn gyntaf, mae 'twristiaeth gwastraff' yn ymadrodd di-raen. Mae'n cael ei ddefnyddio i sôn am yr amgylchiadau y cyfeiriodd Mike Hedges atyn nhw. Mae'r ymchwil yn dangos bod pobl sy’n mynd â gwastraff i safleoedd tirlenwi yn gymharol sensitif i newidiadau cymharol fach yn y gyfradd dreth i'w thalu. Yr hyn yr wyf yn awyddus i’w osgoi yw mynd â gwastraff ar deithiau hir i fannau pellach nag y byddai wedi digwydd fel arall drwy greu anghymhellion yn y system dreth, neu gymhellion yn y system dreth. Felly, fy nod fydd peidio â chyflwyno ffactor newydd i mewn i'r cyfrifiadau y mae pobl yn eu gwneud ar hyn o bryd o ran ble y maen nhw’n cael gwared ar wastraff tirlenwi. Ni fyddwn eisiau gweld ein system dreth yn creu cyfres gwbl wahanol o anawsterau amgylcheddol, a byddwn yn effro iawn i hynny.
Gofynnodd yr Aelod beth yw’r sbardunwyr polisi allweddol y tu ôl i'r Bil yn y pen draw. Er bod hon yn dreth sy'n lleihau cyn belled ag y mae’r Bil dan sylw, y bwriad oedd codi £40 miliwn mewn blwyddyn, ac, fel y Gweinidog cyllid, nid oes gennyf £40 miliwn i lenwi'r twll a gâi ei adael pe na byddem yn cymryd camau i godi'r arian hwnnw yma yng Nghymru. Felly, mae pwrpas pwysig y tu ôl i'r Bil i sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond ar yr un pryd mae’n bwysig iawn ei fod yn cyd-fynd â’n polisi amgylcheddol, a’r polisi hwnnw yw, cyn gynted ag y gallwn wneud hynny, lleihau ac yna dileu'r defnydd o safleoedd tirlenwi ar gyfer gwaredu gwastraff.
Yn olaf, y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod am warediadau heb awdurdod, a’r cydbwysedd prawf a ddefnyddir yn y maes hwn. Bydd gan yr WRA eisoes bwerau ymchwilio sifil yn rhan o unrhyw ymchwiliad treth, ond nodais yn fy natganiad fy mwriad i ymgynghori yn y gwanwyn ar y pwerau ymchwilio troseddol y mae Deddf Casglu a Rheoli'r Dreth (Cymru) 2016 yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w rhoi i Awdurdod Cyllid Cymru. Gwneir hyn drwy is-ddeddfwriaeth. Rwy'n credu bod angen inni fabwysiadu ymagwedd gymesur yn hynny o beth, ond fy mwriad fydd dod â chynigion gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i graffu arnynt.