Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Nodaf ei fod yn dweud y bydd y dreth newydd yn gyson yn fras â'r dreth dirlenwi bresennol, a fydd yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau ac yn lleihau'r risg o dwristiaeth gwastraff. Nid oeddwn yn gyfarwydd â'r cysyniad terfynol hwnnw cyn heddiw, ond rwy’n croesawu'r agwedd gyffredinol. Mae'n agwedd debyg i'r un y mae wedi'i dangos yn y Bil treth trafodiadau tir, un yr wyf wedi mwynhau ymdrin ag ef yn y Pwyllgor Cyllid. Rwy’n credu bod David Melding wedi dweud na fyddai'r Bil yn ddeunydd darllen amser gwely—efallai y gallem estyn gwahoddiad i ymuno â'r Pwyllgor Cyllid lle, o ystyried maint papurau’r pwyllgor yn ddiweddar, mae hynny wedi ymwthio’n eithaf dwfn i mewn i nosweithiau’r aelodau. [Torri ar draws.] Wel, y math o agwedd sydd gan fy mhlaid i at ddatganoli trethi yw: roedd y dreth y mae'n gwneud datganiad amdani heddiw a’r dreth trafodiadau tir yn y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi a gwnaethom dderbyn hynny gan obeithio mai dyna fyddai’r setliad datganoli. Rydym efallai’n llai gobeithiol y bydd yn unrhyw fath o setliad nawr, ond rydym yn cefnogi'r dreth hon, yn ogystal â'r dreth trafodiadau tir. Mae ein pryder yn ymwneud â datganoli treth incwm heb y refferendwm a addawyd, neu'r canfyddiad mewn rhai mannau na fydd yr ail dreth hon ond un o gyfres bellach a fydd fel bysiau’n dilyn ei gilydd yn gyflym, rhywbeth y byddai gennym bryderon amdano.
Mae'r trefniant y bydd ganddo yn y dreth hon, ac nad yw yn fersiwn bresennol y DU, neu o leiaf y fersiwn Cymru a Lloegr, o'r dreth, yn ymwneud â gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon neu o leiaf heb gofrestriad—. A all ef ddweud ai’r bwriad yn y fan yna yw gwneud gorfodi yn fwy effeithiol drwy, o bosibl, ostwng y safon o brawf—rwy’n tybio yn ôl yr hyn sy'n debygol ar gyfer asesu a oes angen y dreth—ac a all hynny helpu o’i gymharu â'r cosbau troseddol presennol?
Tybed a gaf i hefyd ofyn iddo—. Rwy’n deall nad yw’n dymuno sôn am ba gyfradd y mae'n bwriadu ei gosod ar gyfer hynny tan o leiaf yr hydref nesaf, ond tybed a allai ddweud ychydig mwy am y pwyslais cyffredinol y mae am ei roi i’r dreth hon yn y gyfres o fesurau sydd ar gael. Mae gennym y targedau canrannol ar gyfer ailgylchu, ac mae'r rhain wedi bod yn fesurau eithaf plaen. Rwy’n meddwl am achos Casnewydd, sef fy rhanbarth i, lle mae'r gyfradd ailgylchu gyffredinol yn isel, ond o leiaf mae bron yr holl ddeunydd ailgylchu hwnnw’n cael ei ailgylchu mewn gwirionedd, ond mae cyfran o gyfraddau ailgylchu uwch rhai awdurdodau eraill nad ydynt yn cael ei hailgylchu mewn gwirionedd. Nid yw'n ymddangos bod y mesur hwnnw’n rhoi sylw i hynny, ond efallai y bydd y dreth hon yn ei ystyried. A yw'n bwriadu ei defnyddio yn yr ystyr hwnnw?
Yn ail, i droi’n ôl at yr ymadrodd hyll 'twristiaeth gwastraff', beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd wrth hynny? Yn amlwg, mae safleoedd ar gael yng Nghymru, a safleoedd tirlenwi ar gael yn Lloegr, ac mae amrywiol gynyrchiadau o wahanol ganolfannau, neu sbwriel y mae angen ei waredu o bosibl yn y ffordd honno. A yw'n dweud nad yw eisiau gweld unrhyw wastraff yn dod i mewn o Loegr i Gymru, neu nad yw eisiau gweld mwy o wastraff yn mynd o Loegr i Gymru nag ar hyn o bryd? A yw’n ystyried efallai gosod cyfradd uwch er mwyn anghymell yr hyn y gallai ei alw’n dwristiaeth gwastraff, neu a yw'n gweld unrhyw fudd ariannol iddo ef fel Ysgrifennydd y Cabinet i godi’r arian hwn? Pe byddai’n gosod cyfradd is, a yw'n credu y byddai hynny'n arwain at gynnydd i’r refeniw a fyddai’n dod i mewn, oherwydd yr hyn y elwir yn dwristiaeth gwastraff?