7. 3. Datganiad: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:06, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw? Efallai nad yw’r dreth dirlenwi yn destun sgwrs mewn tafarndai a chlybiau ledled Cymru, ond mae'n dreth bwysig, a gall fod yn arf pwysig i Lywodraeth Cymru i roi polisi amgylcheddol ar waith yng Nghymru.

Byddaf yn cyfrannu at waith craffu’r Pwyllgor Cyllid ar y dreth tirlenwi, felly rwyf am gadw fy sylwadau a fy nghwestiynau yn fyr heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y Dirprwy Lywydd yn falch o wybod. Mae gennyf dri chwestiwn. Yn gyntaf, rydych chi a'ch rhagflaenydd, sydd yn y Siambr heddiw, wedi datgan ac ailddatgan dro ar ôl tro eich bod yn credu y dylai trethi Cymru fod yn gyson â’r rhai cyfatebol presennol yn Lloegr i gynorthwyo cyfnod pontio llyfn. Ni ddylai fod gwahaniaeth, oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol, er mwyn osgoi dryswch diangen. Ond fe wnaethoch awgrymu yn eich datganiad heddiw y byddwch yn gwyro oddi wrth drefniadau trethu presennol y dreth dirlenwi lle mae anghysondebau—rwy'n meddwl mai dyna y gwnaethoch eu galw—yn bodoli. Tybed a allech chi ymhelaethu ar yr anghysondebau hyn a beth fydd angen ei wneud i ymdrin â nhw.

Yn ail, soniasoch am y mater pwysig o osgoi talu treth. Bydd hon yn dreth newydd, i bob pwrpas, pan gaiff y dreth bresennol ei diffodd, fel y dywedwn. Pa mor hyderus ydych chi y bydd mesurau yn erbyn osgoi talu treth yn y dyfodol, pan fydd y dreth newydd ar waith, mor effeithlon a thrylwyr ag y maent wedi bod hyd yn hyn? Rwy’n meddwl, o’ch sylwadau cynharach, eich bod yn nodi, mewn gwirionedd, nad yw'r system bresennol wedi bod cystal ag y bu gyda rhai trethi eraill, felly rwy’n deall eich bod yn gweld hyn fel cyfle i wneud y system yn well.

Ac yn drydydd ac yn olaf, ac yn fwy cyffredinol, rydym ni fel Cynulliad, fel Llywodraeth Cymru, yn llunio hon, ail dreth Cymru, tra bod Awdurdod Cyllid Cymru yn dal i gael ei greu. Mae'n dal i fod ar ffurf embryonig; gwyddom y bydd y cadeirydd yn cael ei ddewis yn y dyfodol agos. Felly, mae llwyddiant y dreth hon ac, yn wir, disodli’r dreth stamp, yn gysylltiedig â llwyddiant yr awdurdod newydd. Sut yr ydych chi’n cynnwys y trethi newydd hyn, wrth iddynt gael eu datblygu, yn DNA Awdurdod Cyllid Cymru i wneud yn siŵr bod y trethi newydd ac, yn wir, yr Awdurdod Cyllid Cymru newydd, yn dechrau arni ar unwaith pan gaiff yr hen drethi eu diffodd, oherwydd bydd honno’n broses sydyn iawn? Hoffem iddo fod mor llyfn â phosibl, ond, un ffordd neu'r llall, yn 2018—rwy’n tybio am hanner nos; nid wyf yn siŵr faint o’r gloch yn union y bydd yn digwydd—caiff yr hen drethi hynny eu diffodd, ac mae arnom angen i'r trethi newydd fod mor ddibynadwy ac effeithlon ag y bo modd. Diolch.