7. 3. Datganiad: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:09, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Nick Ramsay am y tri chwestiwn yna. Mae'n hollol iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd Awdurdod Cyllid Cymru, a'n hangen i gynyddu ei allu’n gyflym nawr dros y misoedd nesaf. Gwn ei fod wedi dangos diddordeb brwd yn ein cynlluniau i hysbysebu am gadeirydd a bwrdd yr awdurdod cyllid, ac i wneud yn siŵr bod y sgiliau angenrheidiol ar gael iddo. Rwy'n teimlo ein bod wedi gwneud cychwyn cadarn o ran sicrhau bod gan yr awdurdod y pwerau sydd eu hangen arno i wneud rhai penodiadau cynnar ar yr ochr weithredol i ddarparu’r profiad sydd ei angen, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor, y Pwyllgor Cyllid, a fydd yn gwneud gwaith penodol mewn cysylltiad ag Awdurdod Cyllid Cymru—yr adran anweinidogol gyntaf y byddwn wedi ei chreu fel Llywodraeth Cymru—a bydd dyfodol yr awdurdod a’i addasrwydd ar gyfer y dasg sydd ganddo ar y gweill yn rhan o hynny.

A gaf i droi at y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod ynglŷn â’r ffyrdd yr ydym wedi achub ar gyfle’r Bil hwn, gan barhau i fod mor agos ag y gallwn i'r trefniadau presennol am resymau dilyniant, i ddal i geisio gwella pethau? Felly, dyma un enghraifft yn unig ar gyfer y prynhawn yma. Mae'r dreth fel y mae’ hi ar hyn o bryd wedi bod yn agored i ymgyfreitha dros yr hyn a elwir yn brawf 'bwriad i daflu'. Felly, mae'r Bil yn troi ar ba un a yw rhywun sy’n mynd â gwastraff i safle tirlenwi yn mynd ag ef yno gyda'r bwriad o'i daflu ai peidio. Os mai dyna'r bwriad, rydych yn cael eich trethu, ond mae llawer o bobl sy’n mynd â gwastraff i safleoedd tirlenwi wedi dadlau, oherwydd bod gan y gwastraff hwnnw ddefnydd eilaidd—er enghraifft, gallai fod yn cynhyrchu methan, fel yn yr enghraifft a welodd Dawn Bowden a minnau ddoe, a bod y methan hwnnw’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan—felly, nid yw’r defnydd yn cael ei daflu, gan fod ganddo ddefnydd eilaidd. Mae llawer iawn o ymgyfreitha wedi bod gerbron y llysoedd ynglŷn â’r agwedd honno. Rydym wedi achub ar y cyfle yn y Bil hwn i dynhau ac egluro cwmpas y dreth a’i gwneud yn glir mai’r prif ddiben, ac nid unrhyw agweddau eilaidd, a fydd yn benderfynodol cyn belled ag y mae’r bwriad hwnnw i daflu dan sylw. Treth dechnegol yw hon a bydd o ddiddordeb mawr i nifer cymharol fach o bobl, ond rydym wedi gallu manteisio ar grŵp rhanddeiliaid cryf iawn i’n helpu i’w llunio a dim ond un enghraifft yw honno o'r ffordd yr ydym yn bwriadu newid y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd yn y Bil hwn i roi mwy o eglurder a phendantrwydd i weithredwyr a hefyd i'r dreth ei hun.