Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Rwy’n croesawu'n fawr y cynigion i ymdrin ag osgoi talu treth, oherwydd mae’n amlwg bod hynny’n un o'r pethau y bydd pobl yn ei wneud. Mae trigolion o gwmpas safle gwaredu Wedal Road yn sôn am weithredwyr masnachol sy’n rhoi deg punt i drigolion i waredu gwastraff masnachol er mwyn osgoi gorfod gwneud hynny eu hunain. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn am hynny yw: a fydd y trigolyn sy'n derbyn y deg punt—nad yw, felly, yn gorfod talu dim—a fydd yn gorfod talu’r dreth hon ar drafodiadau heb awdurdod, oherwydd mae’n amlwg yn gwybod beth mae’n ei wneud wrth dderbyn y gwastraff hwn?
Yn ail, mae gwahaniaeth enfawr rhwng nifer y digwyddiadau yr hysbyswyd amdanynt gan wahanol awdurdodau lleol a faint o arian y maen nhw’n ei wario ar geisio dod o hyd i dipwyr anghyfreithlon a byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod ychydig mwy am gymhelliant posibl i awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn ymdrin â thipwyr anghyfreithlon drwy allu gwneud cais am arian ychwanegol i, er enghraifft, addysgu contractwyr adeiladu nid yn unig i gael gwared ar eu gwastraff masnachol yn briodol, ond hefyd i leihau faint o wastraff a gynhyrchir ganddynt yn y diwydiant adeiladu yn y lle cyntaf. Mae pob math o ffyrdd y gellir gwneud hyn, drwy ddefnyddio'r holl ddeunyddiau sy'n cael eu cynhyrchu yn yr adeilad ar y safle, ac mae rhai’n llawer gwell am wneud hynny nag eraill. Hefyd, a fyddai arian ar gael i siarad ag adwerthwyr ynglŷn â sut i leihau pecynnu gormodol; rwy’n gwybod bod hynny’n rhywbeth y mae trigolion yn rheolaidd yn pryderu amdano—. Ond yn gyffredinol, yn amlwg, rwy’n meddwl—