7. 3. Datganiad: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 4:16, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dau bwynt os caf, i chi, Weinidog. Y cyntaf yw eich bod wedi sôn, yn yr ymateb cynharach, am y ffaith fod y Bil yn rhagweld casglu—bod derbyniadau’r dreth gyfredol tua £40 miliwn, ac yn amlwg, mae adroddiadau’n dweud bod hon yn dreth sy'n lleihau, ac yn y pen draw, gallai fod mor isel â £27 miliwn ac yn disgyn. Felly, a ydych chi wedi edrych ar y ddeddfwriaeth fel ffordd o gynyddu cwmpas casglu, fel bod hynny’n un ffordd o feddalu’r golled incwm? Nid ydych yn sôn am symiau bach o arian yma, o’i gymharu â'r hyn sydd o fewn eich disgresiwn. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod a fydd sylfaen ehangach i’r Bil fel ei fod yn cynnwys mwy o wastraff, ac felly’n dod â mwy o gyllid inni, neu os na fydd, sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i ad-dalu’r diffyg hwnnw.

Yn ail, gwnaethoch y pwynt y byddai'r cyfrifoldeb ar—mai’r rhagdybiaeth yw bod y tirfeddiannwr yn ymwybodol o'r tipio sy’n digwydd. Yn aml iawn, wrth dipio symiau bach, gall hynny fod yn dipio anghyfreithlon, ar ran y dreth, ond hefyd ar ran y landlord yn ogystal, lle mae rhywun wedi agor giât a thaflu tri neu bedwar llwyth i mewn i'r cae—fersiwn mwy o dipio anghyfreithlon, os mynnwch chi. Felly, sut y mae'r Bil yn mynd i gynnwys y rhagdybiaeth honno gan hefyd amddiffyn landlord a allai ei ganfod ei hun yn y sefyllfa lle mae rhai contractwyr wedi torri’r cloeon, wedi gyrru i mewn ac wedi dympio pump, chwech neu saith llwyth, ond yn amlwg, y landlord sydd yn y pen draw yn gorfod talu'r dreth a chael ei lusgo gerbron y llysoedd?