7. 3. Datganiad: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:17, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Andrew R.T. Davies am y ddau gwestiwn yna. Nid diben y Bil yw ymestyn cwmpas cynnwys, ac eithrio dympio gwastraff yn anghyfreithlon, a fydd nawr wedi’i ddwyn o fewn y dreth. Nid yw’r pwynt hwn wedi’i godi hyd yn hyn y prynhawn yma, ond gallai fod yn bwysig imi ddweud, wrth gwrs, bod y dreth hon wedi’i chynnwys yn y fframwaith cyllidol, felly, wrth i swm y dreth yr ydym yn ei chodi yng Nghymru ostwng, bydd yr addasiad grant bloc yn ystyried hynny, oherwydd bydd hon yn dreth sy’n gostwng ar yr ochr arall i’r ffin hefyd. Nid yw'n awtomatig yn wir, wrth i’r dreth fynd i lawr, y bydd y cyllid sydd ar gael i Gymru yn mynd i lawr yn ogystal. Bydd y fframwaith cyllidol a'r addasiad grant bloc yn effeithio ar bethau yn yr achos hwnnw.

Rwy'n awyddus iawn i ymateb i'w ail bwynt, oherwydd er y bydd dympio gwastraff yn anghyfreithlon yn cael ei gynnwys gan y dybiaeth wrthbrofadwy hon bod y rhai sy'n ymwneud ag ef yn gwybod beth maent yn ei wneud, rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith bod stwff wedi cael ei ollwng ar dir rhai tirfeddianwyr heb iddynt wybod dim am y peth ymlaen llaw, a bod hyn yn achosi cur pen iddynt hwythau hefyd. Felly, rydym wedi nodi, mewn dogfennau sy'n cyd-fynd â'r Bil, sut y gellir gwrthbrofi’r rhagdybiaeth honno. Rwy’n credu, pan gaiff ef gyfle yn nes ymlaen i edrych ar y manylion hynny, y bydd yn gweld bod y Bil yn amddiffyn yn ofalus iawn yn erbyn yr amgylchiadau a ddisgrifiodd ac na fyddai pobl yn canfod eu hunain yn agored i erlyniad pe byddai rhywbeth wedi digwydd yn gyfan gwbl y tu hwnt i’w gwybodaeth neu eu rheolaeth.