8. 4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:20, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac o amlinellu barn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Bydd yr Aelodau yn gweld o'n hadroddiad bod y pwyllgor yn cefnogi'r dull a nodir yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac yn cytuno ei bod yn briodol i ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol.

Effaith y gwelliant i'r Bil a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Nash fydd mynnu bod asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru yn ystyried yr un ffactorau â'r rhai sy'n berthnasol i asiantaethau mabwysiadu yn Lloegr a'r llysoedd. Bydd y gwelliant hefyd yn golygu, i asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, y bydd darpar fabwysiadwyr bellach wedi’u cynnwys ar y rhestr o berthnasoedd y mae’n rhaid iddynt eu hystyried wrth wneud penderfyniad am fabwysiadu plentyn.

Roedd yn ddefnyddiol bod amserlen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn wedi caniatáu cyfle i’r pwyllgor ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol i lywio ei ystyriaethau, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ddarparu digon o amser yn y broses i hyn ddigwydd. Mae'n bwysig bod rhanddeiliaid yn cael cyfrannu at broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Mae ymgynghoriad ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru wedi dangos cefnogaeth i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil, a’r farn glir a roddwyd i'r pwyllgor gan Adoption UK Cymru a’r gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol yw eu bod yn croesawu'r cynnig i ganiatáu'r newid arfaethedig yng Nghymru.

Ni wnaeth ein hystyriaethau fel pwyllgor dynnu sylw at unrhyw faterion na phryderon eraill, ac mae'r pwyllgor, felly, yn argymell bod y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw. Diolch.