– Senedd Cymru am 4:19 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda heddiw, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig y cynnig—Carl Sargeant.
Cynnig NDM6173 Carl Sargeant
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol sy'n ymwneud ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i osod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu gwaith craffu ar fy memorandwm. Rwyf hefyd yn falch o nodi nad yw’r pwyllgor wedi codi unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac mae ei adroddiad yn argymell bod y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Cynigiaf yn ffurfiol.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac o amlinellu barn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Bydd yr Aelodau yn gweld o'n hadroddiad bod y pwyllgor yn cefnogi'r dull a nodir yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac yn cytuno ei bod yn briodol i ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol.
Effaith y gwelliant i'r Bil a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Nash fydd mynnu bod asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru yn ystyried yr un ffactorau â'r rhai sy'n berthnasol i asiantaethau mabwysiadu yn Lloegr a'r llysoedd. Bydd y gwelliant hefyd yn golygu, i asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, y bydd darpar fabwysiadwyr bellach wedi’u cynnwys ar y rhestr o berthnasoedd y mae’n rhaid iddynt eu hystyried wrth wneud penderfyniad am fabwysiadu plentyn.
Roedd yn ddefnyddiol bod amserlen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn wedi caniatáu cyfle i’r pwyllgor ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol i lywio ei ystyriaethau, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ddarparu digon o amser yn y broses i hyn ddigwydd. Mae'n bwysig bod rhanddeiliaid yn cael cyfrannu at broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Mae ymgynghoriad ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru wedi dangos cefnogaeth i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil, a’r farn glir a roddwyd i'r pwyllgor gan Adoption UK Cymru a’r gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol yw eu bod yn croesawu'r cynnig i ganiatáu'r newid arfaethedig yng Nghymru.
Ni wnaeth ein hystyriaethau fel pwyllgor dynnu sylw at unrhyw faterion na phryderon eraill, ac mae'r pwyllgor, felly, yn argymell bod y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Nid oes mwy o siaradwyr. Oes angen i chi ateb?
Dim ond i ddiolch i'r Aelod am y cyfraniad. Rwy’n gofyn i’r Aelodau gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diolch.