9. 5. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2015-16

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:38, 29 Tachwedd 2016

Diolch. Rwy’n cynnig gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Er bod y ddadl yma am wasanaethau sy’n cael eu darparu i bobl hŷn, mae o ddiddordeb i ni i gyd, wrth gwrs, ac am y math o wlad yr ŷm ni am ei chreu yng Nghymru. Pa fath o wlad yr hoffem ni dyfu’n hen ynddi? Wel, dyna ydy’r cwestiwn y mae angen i ni i gyd fod yn ei ystyried.

Mae’r adroddiad yn tanlinellu gwerth cael comisiynydd pobl hŷn, ac mae’r gwaith achos yn dangos bod gwasanaethau yn aml yn rhy gymhleth ac yn anodd cael mynediad atyn nhw. Mae ansawdd y gofal yn arbennig yn fater sy’n cael ei danlinellu dro ar ôl tro.

Rŷm ni’n cefnogi’r syniad o hawl i wasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu hargymell gan y comisiynydd, ac yn hapus i weld yr hawliau hynny yn cael eu cryfhau ym mha bynnag ffordd posib. Ond mae yna un eliffant mawr yn yr ystafell, a’r eliffant hwnnw ydy llymder y toriadau, yn enwedig ar gyfer llywodraeth leol. Er bod llywodraeth leol yn cael ei tharo yn llai caled yng Nghymru eleni, diolch i gytundeb cyllidebol Plaid a Llafur, mae’r setliad cyffredinol, a’r sefyllfa yn gyffredinol, yn creu llawer iawn o heriau. Yn anochel, mae hawliau pobl hŷn i gael gwasanaethau fel trafnidiaeth gyhoeddus dda, llyfrgelloedd a thoiledau cyhoeddus, a’r amrediad o wasanaethau sy’n hanfodol i ansawdd bywyd pobl hŷn, o dan fygythiad. Mae llymder parhaol, hirdymor yn milwrio yn erbyn hyrwyddo hawliau pobl hŷn, a bydd deddfwriaeth sy’n cael ei phasio yn y lle hwn ddim mor effeithiol heb y pwerau cyllidol sydd eu hangen i sicrhau bod modd ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn briodol. Yn anffodus, mae’n ymddangos y bydd yr heriau’n parhau. Mae sut y byddwn ni’n ymateb iddyn nhw yn mynd i benderfynu a fydd henaint yn brofiad da—y math o brofiad y byddem ni i gyd yn fan hyn yn hoffi ei gael. Neu a fyddwn ni, drwy lymder a thrwy’r sefyllfa, yn creu tlodi pensiynwyr i lawer—y math o beth a welwyd ddegawdau yn ôl.

Mi fuaswn i’n hoffi amlinellu tri pheth o ran agwedd a fyddai’n gallu helpu. I ddechrau, mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn llawer mwy gonest efo eu pleidleiswyr craidd am yr angen economaidd i gael gweithlu mwy yn talu lefelau o dreth sydd angen er mwyn cynnal gwasanaethau cyhoeddus hanfodol o ansawdd. Yn ail, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ganfod ffyrdd lle gall gwasanaethau cyhoeddus a’r adrannau o fewn yr un un gwasanaethau weithio efo’i gilydd yn fwy effeithiol. Mae hyn yn golygu dealltwriaeth llawer gwell am hyn, ac am y ffaith bod methu cynnal un gwasanaeth yn golygu costau ychwanegol i wasanaethau eraill, a bod obsesiwn efo gwaelodlin yn creu problemau i’r blynyddoedd a ddaw. Yn y pen draw, mae’n rhatach darparu gwasanaethau cyhoeddus da na gadael i bobl fynd yn sâl yn hirdymor, gadael i bobl fynd yn ddibynnol ar wasanaethau cyhoeddus neu fynd yn ddefnyddwyr cyson ohonyn nhw.

Mae hyn yn arwain at y trydydd pwynt, sydd hefyd yn ymwneud efo agwedd. Rhaid inni roi’r gorau i’r agwedd yma fod y rhai sy’n defnyddio y gwasanaethau cyhoeddus rywsut yn fwrn ar arian y trethdalwyr. Nid ydyn nhw. Mae pobl dros 65 yn gwneud cyfraniad economaidd a chymdeithasol enfawr i Gymru: gwerth £259 miliwn o ofal plant am ddim i wyron ac wyresau; £496 miliwn drwy wirfoddoli. Dim ond dwy enghraifft ydy hynny. Meddyliwch sut y buasai hi ar y gwasanaethau cyhoeddus heb y rhain a llawer mwy. Felly, yr agwedd i’w mabwysiadu yw hyn: os ydyn ni’n gwario arian ar gadw pobl yn iach, yn actif ac yn byw’n annibynnol, yna mi fyddwn ni’n cael gwerth, budd, allan o’r buddsoddiad hwnnw. Ac, yn ei dro, mi fydd hynny’n galluogi mwy ohonom ni i heneiddio’n dda. Dyna enw ar brosiect blaengar yng Ngwynedd, sydd efo’r union fwriad hynny yn graidd iddo, sef galluogi pobl y sir i heneiddio’n dda. Buaswn i’n hoffi diolch i’r comisiynydd a’i thîm am eu gwaith, ac am yr adroddiad yma heddiw. Diolch.