Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Yn gyntaf, a gaf i ymuno ag eraill i ddiolch i gomisiynydd pobl hŷn Cymru a'i staff am gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr i ni? Mae'r adroddiad yn gywir yn nodi bod pobl hŷn, i lawer ohonom, ein harwyr bob dydd, ond weithiau gwneir iddynt deimlo eu bod yn cael eu heithrio o gymdeithas ac yn ddioddefwyr rhagdybiaethau ffug o gwmpas llesgedd, dirywiad a dibyniaeth. Yr hyn na ellir ei wadu yw’r realiti bod llawer gormod o bensiynwyr yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae'r comisiynydd wedi amcangyfrif bod dros 100,000, gyda thua 20 y cant o bobl hŷn yn byw dan y ffin tlodi.
Gwnaeth adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn 2011 nodi gostyngiad mewn tlodi ymhlith pensiynwyr yng Nghymru dros y degawd diwethaf, ond roedd y gostyngiad hwn hanner cyfradd y gostyngiad yn yr Alban. Er bod tlodi yn annerbyniol beth bynnag yw eich oedran, ar gyfer pobl hŷn, mae'n cyfyngu ar eu gallu i wneud cymaint o bethau, ac mae hyn yn aml yn achosi iddynt ddod yn ynysig ac yn unig.
Mae'r adroddiad manwl gan y comisiynydd yn cwmpasu sawl maes, gormod o lawer i ymdrin â nhw yn yr amser sydd ar gael. Felly, hoffwn ganolbwyntio ar un maes penodol, sef y gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd recriwtio a chadw gweithlu ymroddgar ac wedi'i hyfforddi'n dda yn hanfodol i’r ymdrechion i ddarparu gofal o’r safon uchaf posibl ar gyfer ein pobl hŷn. Er bod y gweithlu hwn yn amlwg yn darparu gofal ar draws ystod gyfan o anghenion, mae rhan fawr o'i waith yn ymwneud yn uniongyrchol â gofal pobl hŷn mewn lleoliadau gofal preswyl a gofal cartref.
Byddaf yn siarad am ofal preswyl yn y man, ond yn gyntaf rwyf am ganmol y datganiad gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddoe, yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar y gweithlu gofal cartref. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cwmpasu amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref, gan gynnwys contractau dim oriau, cymwysterau a chofrestru'r gweithlu, talu am amser teithio a chraidd, a llwybrau gyrfa. Croesawaf yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu ar gyfer mwy o dryloywder dros y defnydd o gontractau dim oriau.
Rwy'n falch bod y datganiad hwn yn nodi bwriad clir i ymestyn y gyfundrefn cofrestru gweithlu i weithwyr gofal cartref erbyn 2020 hefyd. Hyd yn oed ar gam cynnar, rwy’n meddwl yng Nghymru ein bod yn gweld y manteision o benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno trefn gofrestru ar draws y gweithlu addysg, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd buddion tebyg yn deillio o gofrestru staff gofal cartref.
O ran gofal preswyl, rwy'n falch o nodi bod y comisiynydd wedi derbyn y sicrwydd priodol y bydd Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn cynnal camau gweithredu a nodwyd yn adroddiad y comisiynydd, 'Lle i’w Alw’n Gartref?', a bod y cynnydd yn cael ei fonitro'n rheolaidd. Wrth ymweld â chartrefi gofal preswyl yn fy etholaeth i, dwi'n cael fy nharo gan faint o ofal gwych ac arferion da sy’n cael eu cyflwyno. Fodd bynnag, rwy’n meddwl weithiau tybed a ydym yn gwneud digon i hyrwyddo’r arferion da hynny, ac felly rwy’n croesawu ymrwymiad y comisiynydd i gynnal seminarau pellach yn 2016-17, lle gall darparwyr cartrefi gofal ddod ynghyd a rhannu arferion da.
Yn gynharach, soniais am yr unigrwydd a’r unigedd a deimlir gan lawer o bobl hŷn, ac wrth ddod i'r diwedd, felly, rwy’n diolch i'r Ceidwadwyr am eu gwelliannau adeiladol wrth gydnabod yr angen i fynd i'r afael â hyn, ac am eu cefnogaeth i ystyried Bil hawliau pobl hŷn. Rwyf hefyd yn croesawu ac yn cefnogi'r gwelliant gan Blaid Cymru sy’n cydnabod swyddogaeth allweddol ein gwasanaethau cyhoeddus, a'r heriau y maent yn eu hwynebu ar ôl blynyddoedd o bolisïau llymder aflwyddiannus Llywodraeth San Steffan.