Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 30 Tachwedd 2016.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn atodol? Ynghyd â’r ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Hafan y Môr, mae ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod wedi cael buddsoddiad o dros £8.5 miliwn, wedi ei gefnogi gan £4.8 miliwn o’n rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod wedi derbyn, fel y dywed y pennaeth, adeilad o’r radd flaenaf a chyfarpar addas. Mae hyn yn cynnwys y sgriniau cyffwrdd LED mwyaf cyfoes yn y sir, darpariaeth Wi-Fi drwy’r ysgol, system sain o’r radd flaenaf, a theledu cylch cyfyng cynhwysfawr. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r awdurdod lleol yn awyddus i weithio gyda’r ysgol, a chorff llywodraethu’r ysgol, i ddatrys unrhyw bryderon a allai fod ganddynt ynglŷn ag offer yn yr ysgol. Ac fel y dywedais, byddaf yn gallu gweld hynny fy hun yfory, pan fyddaf yn ymweld â’r ysgol.