Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf gwrthodwyd caniatâd i mi fel Aelod Cynulliad i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn ysgol newydd Bae Baglan ym Mhort Talbot gan y pennaeth ar y funud olaf, wrth i mi geisio trafod problemau parcio lleol a mynediad at gyfleusterau cymunedol yn yr ysgol. Y rheswm a roddwyd oedd ei fod yn gyfarfod gwleidyddol, ond nid oedd yn gyfarfod gwleidyddol gan fod cynrychiolwyr o bleidiau eraill ac ACau eraill o bleidiau eraill yno yn y cyfarfod. Nid wyf yn disgwyl i chi roi sylwadau ar yr enghraifft benodol hon, ond sut y gallwn ddisgwyl i ddisgyblion a myfyrwyr gymryd rhan yn y broses wleidyddol os nad yw penaethiaid, yn lleol, yn ymwybodol beth yw’r prosesau a’r hyn yr ystyrir ei fod yn wleidyddol a beth yw ein rôl fel Aelodau Cynulliad? Pa hyfforddiant y byddwch yn ei ddarparu, felly, i benaethiaid nad ydynt yn gwybod beth yw’r rheolau hynny o bosibl?