Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Credaf y gall mater addysg wleidyddol mewn ysgolion fod yn eithaf perthnasol o ystyried cynigion y Gweinidog llywodraeth leol i ymestyn y bleidlais i bobl 16 a 17 oed rywbryd yn y dyfodol o bosibl. Felly, roeddwn yn tybio sut y byddwn yn sicrhau bod addysg wleidyddol yn cael ei dysgu mewn ffordd gytbwys er mwyn cynrychioli gwahanol safbwyntiau gwleidyddol.