<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:52, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Yr hyn sy’n bwysig i mi yw’r cynnydd y mae ysgolion Cymru yn ei wneud. Dylai Aelodau nodi bod canlyniadau TGAU disgyblion Cymru y llynedd yn union yr un fath â rhai eu cymheiriaid dros y ffin yn Lloegr. Ond nid wyf yn bodloni ar feincnodi ein system addysg yn ôl y system dros y ffin. Rwyf am feincnodi ein system yn ôl y goreuon yn y byd. Dyna pam ein bod yn parhau i weithio’n rhagweithiol gyda’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i sicrhau y bydd y diwygiadau rydym yn eu cyflawni yn ein galluogi i wireddu’r uchelgeisiau hynny.