<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 1:53, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb, ac wrth gwrs y flwyddyn nesaf ac wedi hynny mae’n bosibl na chawn gyfle i wneud cymariaethau o’r fath ar draws y ffin gan fod y system raddio TGAU yn newid yn Lloegr o A i G i 9 i 1, ac ni fydd Cymru yn dilyn y llwybr hwnnw. Fel rhiant sy’n ceisio cymharu ysgolion cynradd, a safonau ar draws ysgolion gwahanol, rwyf wedi gweld hynny’n llawer mwy o her yng Nghymru nag yn Lloegr, gan nad yw’n ymddangos bod canlyniadau cyfnod allweddol 2 yn cael eu cyhoeddi ar ffurf gymharol sy’n caniatáu i rywun gymharu ysgolion yn hawdd. Ai dyna yw bwriad Llywodraeth Cymru, ac oni fyddai’n gwneud synnwyr i gyhoeddi data o’r fath ar ffurf sy’n sicrhau ei fod yn hawdd ei gymharu er mwyn amlygu, yn hytrach na chymylu, y gwahaniaethau rhwng ysgolion?