Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch am eich ateb. Bron i dair blynedd yn ôl, ysgrifennodd y Gweinidog addysg ar y pryd ataf i gadarnhau y gall awdurdodau lleol, a dyfynnaf, ddarparu’r lleoedd hyn—addysg i blant tair oed—mewn ysgol feithrin, dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd, neu leoliadau nas cynhelir, fel cylchoedd chwarae neu feithrinfa ddydd breifat. Nawr, dair blynedd yn ddiweddarach, mae cyngor Abertawe yn parhau i ariannu addysg ar gyfer plant tair oed mewn lleoliadau awdurdod lleol yn unig, felly nid oes dewis i rieni yno o gwbl. Gan fod Llywodraeth Cymru bellach wedi mabwysiadu targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a ydych yn credu bod ymagwedd Abertawe, nad yw’n gwneud dim i hyrwyddo twf y lleoedd hyn mewn lleoliadau Mudiad Meithrin, yn un y gallwch ei chefnogi?