Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’r ffordd y mae hi wedi mynd ar drywydd y mater hwn dros gyfnod maith. Rwyf hefyd yn ymwybodol o’i barn ynglŷn ag ymagwedd cyngor Abertawe yn y materion hyn. Dywedais yn fy ateb i gwestiwn cynharach gan Simon Thomas fy mod yn edrych ymlaen at dderbyn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg y mis nesaf, a byddaf yn edrych ar sut y mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn bwriadu cynllunio ar gyfer twf addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd a’u rhanbarthau eu hunain. Byddaf yn disgwyl hynny gan yr holl awdurdodau i’r un graddau. Ac wrth adolygu’r cynlluniau hynny, byddaf yn edrych ar sut y byddant yn mesur yr angen yn y dyfodol, sut y gallwn ysgogi angen yn y dyfodol a sut y gallwn ddatblygu i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyflawni ein gweledigaeth a’n huchelgais ar gyfer Cymru ddwyieithog.