<p>Pobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:13, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Os oes gan yr Aelod achosion unigol, yna yn amlwg gall ysgrifennu ataf ac fe awn ar eu trywydd gyda’r awdurdodau priodol. Ond gadewch i mi ddweud hyn o ran y weledigaeth gyffredinol: bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig, ac rwy’n edrych ymlaen at y ddadl a’r drafodaeth y byddwn yn ei chael yn y lle hwn ac yn y pwyllgor, a’r drafodaeth ehangach ledled Cymru yn ystod proses seneddol y Bil hwnnw. Byddaf yn cyhoeddi’r cod ymddygiad a’r canllawiau statudol, ar gyfer cyflwyno’r Bil hwnnw ddechrau mis Chwefror, felly gall yr Aelodau adolygu, astudio a chraffu, nid yn unig y ddeddfwriaeth sylfaenol, ond yr is-ddeddfwriaeth weithredu yn ogystal. Ond mae’r ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn ffurfio rhan o raglen drawsnewid lawer ehangach a lansiwyd gennyf rai wythnosau’n ôl gyda datganiad ysgrifenedig yn addo y byddwn yn sicrhau bod yr holl ddarparwyr anghenion dysgu ychwanegol yn cael digon o gefnogaeth a’r hyfforddiant angenrheidiol. Byddwn hefyd yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu darparu i alluogi awdurdodau lleol ac eraill i gyflwyno’r rhaglen drawsnewid fel rydym yn rhagweld.