Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Helo. [Chwerthin.] Iawn. [Chwerthin.] Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn arw at gyhoeddi’r Bil hwn. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gyfarfod â mi yr wythnos diwethaf gyda Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Diabetes UK ac am wrando ar y pryderon ynglŷn â’r angen i gynnwys dyletswydd yn y Bil i ddiwallu anghenion meddygol plant yn yr ysgol. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’ch syniadau am hynny ar hyn o bryd?