<p>Pobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 2:16, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae gan bobl fyddar yr hawl i gael mynediad at addysg. Lleisiodd etholwyr eu pryder wrthyf nad yw hyn yn digwydd fel y dylai ac nad yw rhai o’r staff yn gallu arwyddo ar lefel uwch na lefel 1 neu lefel 2. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymgysylltu â myfyrwyr Iaith Arwyddion Prydain sydd wedi pasio lefel 6 i’w hannog i weithio yn y sector addysg, fel y gallwn geisio gwella problemau’n ymwneud â mynediad?