<p>Pobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:17, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf eisoes wedi cyfarfod ar sawl achlysur â myfyrwyr byddar, teuluoedd, sefydliadau ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda’r bobl hynny er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cyrraedd pob rhan o’r gymuned addysgol a bod pob rhan o’n cymuned yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt ac y maent yn ei haeddu. Bydd pobl fyddar yn rhan annatod o hynny, ac fel rhan o’r rhaglen drawsnewid ehangach—nid y ddeddfwriaeth yn unig, ond y rhaglen ehangach—byddwn yn sicrhau bod addysg yn cael ei chyflwyno gan bobl sydd â’r hyfforddiant priodol ym mhob iaith, boed yn Iaith Arwyddion Prydain, yn Saesneg neu’n Gymraeg.