Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch am y cwestiwn. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf. Mae’r achos hwn yn codi materion pwysig ynglŷn â threfniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig a’r fframwaith ar gyfer datganoli, ac mae’n iawn i Gymru gael ei chlywed mewn perthynas â’r materion hynny, a byddwn yn cyflwyno ein hachos yn y gwrandawiad yr wythnos nesaf. Gan fod hwn yn fater o gryn ddiddordeb a phwysigrwydd i’r cyhoedd, rwyf wedi bod mor agored â phosibl yn y datganiadau a gyhoeddais a’r atebion rwyf wedi eu rhoi yn y gwahanol sesiynau, yn ogystal â dewis cyhoeddi cynnwys testun ein cyflwyniad ysgrifenedig i’r Goruchaf Lys yn ei gyfanrwydd ar-lein.