3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2016.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am hawl Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn yr achos yn ymwneud ag Erthygl 50 yn y Goruchaf Lys? OAQ(5)0011(CG)
Diolch am y cwestiwn. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf. Mae’r achos hwn yn codi materion pwysig ynglŷn â threfniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig a’r fframwaith ar gyfer datganoli, ac mae’n iawn i Gymru gael ei chlywed mewn perthynas â’r materion hynny, a byddwn yn cyflwyno ein hachos yn y gwrandawiad yr wythnos nesaf. Gan fod hwn yn fater o gryn ddiddordeb a phwysigrwydd i’r cyhoedd, rwyf wedi bod mor agored â phosibl yn y datganiadau a gyhoeddais a’r atebion rwyf wedi eu rhoi yn y gwahanol sesiynau, yn ogystal â dewis cyhoeddi cynnwys testun ein cyflwyniad ysgrifenedig i’r Goruchaf Lys yn ei gyfanrwydd ar-lein.
Diolch. O ystyried bod yr achos dros adael yr UE yn seiliedig, yn rhannol, ar bwysigrwydd dychwelyd pwerau i’r Senedd, a yw’r Cwnsler Cyffredinol yr un mor ddryslyd â minnau fod Llywodraeth y DU yn herio safbwynt y llys y dylai fod gan y Senedd rôl yn sbarduno hyn? A fyddai’n cytuno bod hwn yn fater i holl Seneddau’r DU, ac nid i Senedd San Steffan yn unig? Ac a yw wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion y gyfraith eraill i sicrhau bod ein buddiannau yn cael eu diogelu?
Wel, ni allaf ddweud fy mod yn ddryslyd. Yn amlwg, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu ar ei llwybr gweithredu ei hun, sef cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys. Mae’r cyflwyniad a gyflwynais ar ran Llywodraeth Cymru, fel Cwnsler Cyffredinol, yn nodi ein safbwynt yn glir iawn, ac sydd mewn gwirionedd yn cefnogi’r penderfyniad hwnnw nad yr uchelfraint yw’r mecanwaith priodol ar gyfer gwneud newid cyfansoddiadol sylweddol, neu mewn gwirionedd, ar gyfer gwrthdroi deddfwriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hefyd mewn perthynas â’r trefniadau cyfansoddiadol sy’n bodoli eisoes.
Cyfeiriaf yr Aelod at un o’r pwyntiau a wnawn yn y cyflwyniad i’r Goruchaf Lys, sy’n dweud mewn gwirionedd, os yw safbwynt Llywodraeth y DU yn gywir ac os yw’r rhesymeg a ddefnyddir yn achos Llywodraeth y DU yn gywir, y gallai’r Prif Weinidog fod wedi diddymu erthygl 50 ar unrhyw adeg, hyd yn oed heb unrhyw awdurdod ar ffurf refferendwm. Felly, dywedwn y byddai hynny’n amlwg yn ddadansoddiad gwrthnysig ac yn amlwg yn anghywir.
Nid ydym yn credu ei fod yn dangos digon o barch i’r Senedd, i’r lle hwn nac i’r deddfwrfeydd datganoledig eraill a etholwyd yn ddemocrataidd. Felly, credwn y bydd rhoi hysbysiad o dan erthygl 50 yn addasu cymhwysedd y Cynulliad a swyddogaethau Llywodraeth Cymru, fel y nodir o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rydym yn dweud na ellir defnyddio’r uchelfraint i hepgor y statud cyfansoddiadol. Rydym hefyd yn dweud y bydd unrhyw addasiad i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, neu’n wir, unrhyw addasiad i swyddogaethau gweithredol o fewn y cymhwysedd datganoledig, yn galw am ystyriaeth o gonfensiwn Sewel, a bod hyn yn arfer cyfansoddiadol allweddol sy’n hanfodol i weithrediad cywir y Deyrnas Unedig. Mae’n darparu ar gyfer deialog rhwng deddfwrfeydd a etholwyd yn ddemocrataidd ynglŷn â newidiadau i’r setliad datganoli. Rydym yn dweud nad oes gan Lywodraeth y DU bŵer i’w bwtgylchedu drwy ddefnyddio’r uchelfraint, felly byddwn yn dadlau dros gadarnhau penderfyniad clir yr Uchel Lys yn achos Miller a thros wrthod apêl Llywodraeth y DU.
Ers ddoe, rwyf wedi cael y fantais o ddarllen achos y Llywodraeth sydd wedi’i argraffu, ac a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Goruchaf Lys yr wythnos nesaf. Yn rhyfedd iawn, ymddengys ei fod yn anwybyddu’r un pwynt hanfodol a sylfaenol yn yr holl saga hon, sef bod y Llywodraeth yn ceisio sbarduno erthygl 50 o ganlyniad i benderfyniad gan bobl Prydain i gyd mewn refferendwm. Yn holl hanes yr anghydfodau cyfreithiol gyda’r Brenin yn yr ail ganrif ar bymtheg, a arweiniodd at erthygl 1 o’r Ddeddf Hawliau, ac yn dilyn achosion cyfreithiol sy’n sefydlu grym cyfyngedig y Goron mewn perthynas â’r uchelfraint, roedd y Senedd yn gweithredu fel dirprwy ar ran y bobl ac i reoli defnydd unbenaethol y Brenin o’r uchelfraint. Mae hyn yn hollol wahanol. Gofynnwyd i’r bobl eu hunain, holl bobl y Deyrnas Unedig, am eu barn ynglŷn ag a ddylem aros yn yr UE ai peidio. Pleidleisiodd y bobl o blaid gadael. Y mecanwaith ar gyfer gwneud hynny yw sbarduno erthygl 50. Nid oes gan y Senedd unrhyw rôl ychwanegol i’w chwarae yn hynny o beth. Mae’r bobl wedi dweud eu dweud. Wrth gwrs, bydd digon o gyfle i ystyried holl effeithiau canlyniadol sbarduno erthygl 50 yn y Senedd gan y bydd angen diwygio’r holl ddeddfwriaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd ers 1973. Felly, ymhell o fod yn anwybyddu’r Senedd, mae hyn yn rhoi cyfle i’r Senedd wireddu dymuniadau pobl Prydain, fel y’u mynegwyd mewn refferendwm lle y dywedasant, heb amod na chyfyngiad, y dylem adael yr UE.
Ymddengys bod yr Aelod yn dweud pethau gwahanol. Ar y naill law, mae’n dweud bod refferendwm wedi bod, a bod hynny’n awdurdodi’r Prif Weinidog i fwrw iddi ac osgoi’r Senedd yn gyfan gwbl, ac yna, ar y llaw arall, mae’n dweud bod hyn yn ymwneud â grymuso’r Senedd. Ond mae’r sefyllfa’n glir iawn: mae gennym gyfansoddiad, mae gennym drefniadau yn eu lle rhwng y Llywodraethau datganoledig, ac yn cwmpasu hyn oll, mae gennym fater rheolaeth y gyfraith. Mae’r Aelod yn dweud yn glir iawn y dylem anwybyddu’r setliad cyfansoddiadol. Mae’n dweud y dylem anwybyddu’r setliad cyfansoddiadol, ac mae hefyd yn dweud nad yw rheolaeth y gyfraith yn berthnasol. Dywedais yn glir iawn ddoe fod dau reswm pam ein bod wedi cyflwyno’r cyflwyniad hwn. Nid yw’n ymwneud â manteision neu anfanteision y refferendwm ei hun. Mae’n ymwneud â sefyll dros ddemocratiaeth, y cyfansoddiad a rheolaeth y gyfraith. Rwy’n pryderu ei bod yn ymddangos bod yr Aelod yn gyson yn dymuno osgoi rheolaeth y gyfraith. I un cyfeiriad yn unig y mae’r ffordd honno’n arwain.