<p>Bil Cymru</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:27, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Gŵyr yr Aelod fod yr ateb hwn yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith. Mae Llywodraeth Cymru yn galw am welliannau i’r Bil wrth iddo fynd drwy Dŷ’r Arglwyddi. Fe fyddwch yn deall y rhesymau dros gonfensiwn swyddogion y gyfraith, a thra bo natur a chynnwys trafodaethau o’r fath yn gyfrinachol, gallaf roi gwybod i’r Aelod fy mod wedi ymweld â’r Alban ac wedi cynnal cyfarfod â’r Arglwydd Adfocad i drafod materion o ddiddordeb cyffredin.