Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Wel, ni fydd yn syndod i’r Cwnsler Cyffredinol fy mod i, fel aelod o Blaid Annibyniaeth y DU, yn amlwg yn croesawu’r ffaith fod y Prif Weinidog yn gweithio ar Ddeddf Seneddol newydd i ddiddymu’r ddeddf anghyfiawn honno, Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Fodd bynnag, i nodi safbwynt UKIP mewn perthynas â hyn, er ein bod yn cefnogi’r Ddeddf, rydym hefyd yn benderfynol na ddylai ddiddymu cymwyseddau’r Llywodraeth hon mewn unrhyw ffordd, a bod yn rhaid i ni yng Nghymru gael rhyddid i newid neu ddiwygio unrhyw ran o’r Ddeddf sy’n effeithio ar y meysydd a ddatganolwyd i’r Cynulliad hwn. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno ei bod yn hanfodol ein bod nid yn unig yn cadw’r cymwyseddau a roddwyd i ni, ond y byddwn hefyd yn gallu diwygio’r meysydd datganoledig sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf i wasanaethu pobl Cymru yn y ffordd orau?