Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Yn sicr, dadl Llywodraeth Cymru yw na ddylid diddymu unrhyw ran o’r meysydd datganoledig hynny, ac y dylid ymdrin â’r pwerau hynny a ddelir yn Ewrop ar hyn o bryd, ac sy’n ymwneud â’r meysydd datganoledig hynny, fel yr amlinellais. Felly, croesawaf sylwadau’r Aelod. Byddwn yn ei annog i fynd gam ymhellach a chefnogi’r cysyniad o reolaeth y gyfraith mewn perthynas â’r materion sydd gerbron y Goruchaf Lys hefyd.