<p>Erthygl 50</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:42, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf, gan atodi fy nghyflwyniadau ysgrifenedig i’r llys. Fel y dywedais yn gynharach, mae’r achos hwn yn tynnu sylw at faterion pwysig yn ymwneud â threfniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli. Mae’n iawn i Gymru gael ei chlywed mewn perthynas â’r materion hynny, a byddwn yn cyflwyno ein hachos yn y gwrandawiad yr wythnos nesaf.