Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch am yr ateb, a chytunaf gyda’r rheswm bod Llywodraeth Cymru yn rhan o’r achos yma. Os ydw i wedi darllen y cynnig i’r Goruchaf Lys yn iawn, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylid ‘trigger-o’ erthygl 50 drwy Fil gerbron Tŷ’r Cyffredin—dim cynnig neu bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin, ond Bil. Os felly, a ydych chi wedi ystyried y math o Fil a fyddai’n addas ar gyfer y broses yna? A fyddai’r Bil, er enghraifft, yn cynnwys darn penodol yn ymwneud â Chymru a deddfwriaeth Ewropeaidd sydd yn weithredol yng Nghymru a pharhad y ddeddfwriaeth yna? Ac a ydych chi o gwbl wedi trafod gyda swyddogion y gyfraith eraill sut y byddai Bil o’r fath yn gallu neilltuo amser i barchu penderfyniad pobl Prydain gyfan yn y refferendwm tra’n parchu hefyd lle’r Cynulliad hwn yn y broses ddemocrataidd?