Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn yn yr ystyr y bydd yn rhaid i ni feddwl y tu hwnt i’r canlyniad yn y pen draw. Os caiff y dyfarniad ei gadarnhau, a bod angen i’r Senedd ddeddfu, yna mae rhagor o faterion yn codi: yn gyntaf, mewn perthynas â chonfensiwn Sewel, yn yr ystyr y bydd y Bil yn cael effaith anochel ar y setliad datganoli, a byddai llais gennym ar y cam hwnnw. Yr hyn rwy’n ei obeithio—ac unwaith eto, credaf mai dyma’r sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog Cymru o bryd i’w gilydd—yw y byddai Llywodraeth y DU yn gweithio ar y cam hwnnw i geisio consensws rhwng holl Lywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig i weithio ar y cyd tuag at nod cyffredin, er mwyn sicrhau bod lleisiau pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn cael eu clywed.