Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn parhau i gyflwyno sylwadau. Mae’r newidiadau arfaethedig i ymgyfreitha sifil a hawliadau bychain yn debygol o gael effeithiau difrifol ar bobl ledled Cymru, ac rydym yn parhau i herio Llywodraeth y DU parthed diwygiadau sy’n cyfyngu ar fynediad at gyfiawnder.