Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Ie, rwy’n credu’n gryf fod gan ein diwydiant dur ddyfodol cynaliadwy yng Nghymru, ac rydym yn gwbl ymroddedig i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau hyn. Fodd bynnag, ni fyddwn yn ymateb i ddyfalu yn y cyfryngau wrth i Tata archwilio opsiynau ar gyfer dyfodol y gweithfeydd yng Nghymru.