Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Cyn i mi alw am y trydydd cwestiwn brys, rwyf eisiau atgoffa Aelodau o’r rheol sub judice. Os oes achos troseddol neu achos ger bron rheithgor ar waith, yna mae Rheol Sefydlog 13.15 yn gwahardd trafodaeth yn y Siambr yma. Rhaid i Aelodau felly sicrhau eu hunain cyn siarad na fyddant yn mynd ar ôl materion a fyddai’n tramgwyddo’r Rheol Sefydlog yma. Rwy’n galw nawr, felly, ar Russell George i ofyn y trydydd cwestiwn brys.