Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru ddatganiad am gam-drin rhywiol hanesyddol yn y byd pêl-droed. Maent wedi cadarnhau eu bod yn gweithio gydag Ymgyrch Hydrant sydd ar y gweill. Buaswn yn annog aelodau o’r cyhoedd sydd ag unrhyw wybodaeth am gam-drin plant neu bobl ifanc i gysylltu â’r heddlu.