Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwyf wedi cyfarfod yn ddiweddar â’r comisiynydd plant a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol i drafod mater y gwasanaeth eiriolaeth. Rwy’n ymwybodol fod pwyllgor y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i hyn ac rwyf wedi cael fy sicrhau gan yr awdurdodau hynny y bydd ganddynt wasanaeth eiriolaeth ar waith erbyn diwedd mis Mehefin y flwyddyn nesaf.