8. 4. Datganiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y Comisiynydd Safonau Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 3:21, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Heddiw yw diwrnod olaf Gerard Elias CF yn ei swydd fel y comisiynydd safonau. Hoffwn ddiolch iddo am ei holl waith caled yn sefydlu’r rôl bwysig hon dros y chwe blynedd diwethaf ac rwy’n croesawu ei olynydd, Syr Roderick Evans CF, i swydd y comisiynydd safonau.

Cafodd Gerard Elias ei benodi yn 2010 pan basiwyd Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009. Roedd yn benodiad rhagorol i’r Cynulliad, a daeth â’i amrywiaeth eang o brofiad gydag ef, ar ôl bod yn gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol am dros 40 mlynedd. Mae ei ymrwymiad cryf i wasanaeth cyhoeddus wedi arwain at nifer o swyddi cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys dirprwy farnwr yr Uchel Lys, cofnodwr a chyn-arweinydd cylchdro Cymru a Chaer, canghellor esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, cadeirydd Comisiwn Disgyblaeth Bwrdd Criced Lloegr a Chymru a chadeirydd Sports Resolutions UK.

Roedd Mesur 2009 yn ceisio sicrhau bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gomisiynydd safonau a oedd yn gallu hyrwyddo safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau’r Cynulliad; yn meddu ar y pwerau a fuasai’n eu galluogi i ymchwilio i gwynion yn drylwyr; ac yn olaf, comisiynydd a oedd yn amlwg yn annibynnol ar y Cynulliad ac felly’n gallu gweithredu’n gwbl wrthrychol. Mae’r rhain i gyd yn faterion o bwys mawr i sicrhau fod gan bobl Cymru hyder yn eu Haelodau etholedig.

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae Gerard Elias wedi anelu tuag at, ac wedi cyrraedd nod y Cynulliad i fod yn batrwm o safonau mewn bywyd cyhoeddus. Mae wedi sefydlu swydd annibynnol, uchel ei pharch, ac wedi siapio ei rôl i sicrhau hyder yn safonau’r Cynulliad. Rwy’n credu ei fod wedi mabwysiadu dull pwyllog a chytbwys wrth reoli cwynion ac wedi cymryd rhan mewn trafodaethau adeiladol â phawb, o Aelodau’r Cynulliad i’r cyhoedd yn ehangach, ynglŷn â’r rhesymau dros ei benderfyniadau a’r rhai a gyflwynodd gwynion.

Mae’r dull pragmatig ac agos atoch hwn wedi cael ei werthfawrogi gan Aelodau’r Cynulliad a chan bawb sydd wedi gweithio gydag ef. Ochr yn ochr â’i waith ar gwynion, mae wedi bod yn ffynhonnell cyngor allweddol i’r pwyllgor safonau, yn enwedig yn ystod adolygiad y pedwerydd Cynulliad o’r cod ymddygiad a’r canllawiau cysylltiedig, a arweiniodd at y ddogfen gompendiwm a ddosbarthwyd i’r holl Aelodau ar ddechrau’r pumed Cynulliad. O bwys arbennig, roedd ei waith i sicrhau bod gan y Cynulliad sancsiynau digonol a sancsiynau priodol pe bai Aelod yn tramgwyddo ynghyd â’i ddiweddariad o’r gofynion ar gyfer datgan a chofrestru buddiannau, sydd wedi sicrhau mwy o eglurder a thryloywder yn y system.

Mae’r newidiadau hyn a wnaed yma wedi helpu i sicrhau bod y rheolau sy’n llywodraethu safonau’r Cynulliad yn addas i’r diben yng nghyd-destun cyfnewidiol datganoli. Ar ben hynny, sefydlodd Gerard Elias ddarlith y comisiynydd safonau ar safonau mewn bywyd cyhoeddus, a gynhelir bob dwy flynedd, ac sy’n cyhoeddi i Gymru fod safonau mewn bywyd cyhoeddus yn bwysig. Roedd cael dau Arglwydd Brif Ustus cyfredol i fynychu yn gyflawniad gwirioneddol ac yn dangos arloesedd rhagorol ar ran y Cynulliad. Rwy’n deall bod y comisiynydd newydd yn bwriadu parhau â’r syniad hwn.

Mae’n bleser manteisio ar y cyfle hwn hefyd i groesawu Syr Roderick Evans CF i rôl y comisiynydd safonau. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n cytuno ei fod yn benodiad rhagorol. Mae Syr Roderick yn farnwr Uchel Lys wedi ymddeol ac yn ogystal â gyrfa ddisglair yn y gyfraith, mae hefyd yn gymrawd ym mhrifysgolion Aberystwyth, Abertawe a Bangor, yn gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru a chafodd ei groesawu’n aelod o Orsedd y Beirdd yn 2002. Yn ystod y weithdrefn recriwtio gynhwysfawr, mynychodd Syr Roderick wrandawiad cadarnhau cyhoeddus yn un o gyfarfodydd y Pedwerydd Cynulliad. Yn y gwrandawiad hwn, nododd ei weledigaeth ar gyfer dyfodol safonau yn y Cynulliad mewn modd cynhwysfawr ynghyd â’i ddull o ymdrin â’r heriau posibl yn ystod y Cynulliad hwn a thu hwnt. Cadarnhawyd ei benodiad yn unfrydol gan y Pedwerydd Cynulliad.

Mae’r rôl y mae Syr Roderick yn ymgymryd â hi yn dal i fod yn gymharol newydd ac yn esblygu’n barhaus. Yn ddi-os, bydd yna heriau i sicrhau bod y Cynulliad yn cynnal y lefelau uchel o safonau a gyflawnwyd hyd yn hyn, yn enwedig wrth i’r pwyllgor gychwyn ar ei adolygiad o lobïo a nodi’r meysydd sydd angen arweiniad a chyngor pellach. Mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen at weithio gyda Syr Roderick i’w gynorthwyo i ddatblygu swydd y comisiynydd safonau ymhellach, ac i gynnal safonau uchel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rwy’n siŵr y bydd yr holl Aelodau’n ymuno â mi wrth i mi groesawu Syr Roderick i’r swydd a diolch i Gerard Elias am yr holl waith caled y mae wedi’i wneud ar ddatblygu rôl y comisiynydd a chynnal safonau’r Cynulliad. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’]