Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 30 Tachwedd 2016.
A gaf i ddiolch i’r Cadeirydd am ei datganiad a’i chroesawu hi, wrth gwrs, i’w rôl? Dyma’i datganiad ffurfiol cyntaf i’r Cynulliad yma ac rwy’n diolch iddi am hynny ac yn edrych ymlaen at gydweithio â hi fel aelod o’r pwyllgor. A gaf innau hefyd ategu’r diolch i Gerard Elias QC, fel y clywsom ni wedi’i benodi yn 2010? Fel aelod o bwyllgor safonau’r Cynulliad diwethaf, mi allaf i dystiolaethu i’r ffaith ei fod e wedi bod yn hyrwyddo’r safonau uchel rŷm ni i gyd yn ymgyrraedd tuag atyn nhw. Y mae wedi bod yn ffigwr annibynnol ei feddwl, wrth gwrs, ond hefyd yn gwbl wrthrychol ei ystyriaethau o’r achosion sydd wedi bod ger ein bron ni, ac mae’n dyled ni, fel Aelodau ac, yn wir, fel cymdeithas yn ehangach, iddo fe yn fawr iawn yn hynny o beth.
Mi gyfeirioch chi at adolygiad y pedwerydd Cynulliad o’r cod ymddygiad a’r canllawiau cysylltiedig â hynny, a, do, mi arweiniodd hynny at ddogfen grynodeb sydd wedi cael ei chyflwyno i bob Aelod o’r pumed Cynulliad yma. Mae hynny’n gyfraniad gwerthfawr, rwy’n meddwl, i sicrhau’r ymddygiad a’r safonau uchel y mae pawb yn eu disgwyl, ond yn gwneud hynny, wrth gwrs—ie, mewn modd cyhyrog, ond heb fod yn anymarferol na’n afresymol o feichus. Mi fyddwn i’n gofyn ichi, Gadeirydd, wrth edrych ymlaen, mai taro’r cydbwysedd yna sydd yn bwysig, hynny yw bod disgwyliadau o ran safonau’n gymesur, wrth gwrs, i’r lefel o risg sydd yna, a bod angen cyfundrefn sydd yn effeithiol ac yn gyhyrog, ond ar yr un pryd, wrth gwrs, yn ymarferol ac yn un sydd yn rhesymol i’w gweithredu.
Mi fyddwn i hefyd yn ategu’ch croeso chi i Syr Roderick Evans QC i’w rôl ef. Cefais gyfle i’w holi e fel rhan o’r broses o gadarnhau’r penodiad, ac rwy’n gwbl hyderus y bydd e nid yn unig yn parhau â’r gwaith da sydd wedi cael ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf, ond wrth gwrs yn adeiladu ar waith ei ragflaenydd.
Mae’r rôl, fel y dywedoch chi, yn dal i esblygu, fel y mae’r sefydliad yma, wrth gwrs, yn dal i esblygu, ac mi fydd yna heriau o’n blaenau ni ac mae’n rhaid inni beidio â llaesu dwylo. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno â fi mai proses barhaus yw gwarchod safonau mewn sefydliad fel hwn. A gaf i, efallai, ofyn i chi os ydych chi’n cytuno y bydd datganoli pwerau ychwanegol, yn enwedig, efallai, pwerau’n ymwneud â threthu, yn tanlinellu ymhellach yr angen i barhau â’r gwaith yma o warchod safonau yn wyneb beth ddaw, mae’n debyg, yn sgil mwy o bwerau, mwy o ddiddordebau a dylanwadau allanol a mwy o lobïo, a’i bod yn bwysig ein bod yn parhau i sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu gosod o dan y comisiynydd newydd, wrth i ni symud yn ein blaenau?