Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon ac i gynnig gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn enw Paul Davies. Fel y mae ein gwelliannau yn nodi, Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o siopau gwag ar y stryd fawr yn y DU, ac mae nifer yr ymwelwyr wedi gostwng 1.4 y cant, o’i gymharu â Hydref 2015. Iawn, un o nifer o ystadegau, ond ystadegyn pwysig serch hynny. Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol iawn o’r rhan bwysig y mae ein strydoedd mawr yn chwarae mewn economïau lleol ledled Cymru, ac mae hynny’n wir mewn rhannau trefol a gwledig o Gymru. Rydym wedi cael llawer o ddadleuon—rhai ohonom yn fwy nag eraill—yn y Siambr am hyn dros y blynyddoedd. Rwyf wedi siarad mewn llawer ohonynt, ac yn y Cynulliad diwethaf, cadeiriais adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar adfywio strydoedd mawr. Mae gennyf gopi ohono yma. Mae’n parhau i fod yn ddeunydd darllen perthnasol iawn. Roedd yr adroddiad hwnnw’n gwneud nifer o argymhellion—21, mewn gwirionedd. Faint o’r argymhellion hynny a dderbyniwyd ar y pryd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cael eu gweithredu? Yn wir, yn y dyddiau hynny, nid oedd yr ailbrisiad ar ein radar hyd yn oed, ond roedd materion eraill yn ymwneud â dirywiad ein strydoedd mawr ar y radar, ac roedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ohonynt. Dair blynedd yn ddiweddarach, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cael y newyddion diweddaraf ynglŷn â gweithredu’r argymhellion hynny.
Nid oes amheuaeth o gwbl ein bod angen dull integredig, sy’n galw am berthynas agos rhwng Llywodraeth Cymru ar y naill law, y diwydiant manwerthu, system gynllunio symlach, a diwygio ardrethi busnes. Wrth gwrs, er bod hwn yn un o’r cynigion dal popeth, neu ddal llawer o bethau, sy’n cynnwys llawer o wahanol agweddau, effaith ailbrisio ardrethi busnes sydd wedi bod ar flaen ein meddyliau dros yr wythnosau diwethaf. Mae’n rhaid i mi ddweud, gan droi at welliant y Llywodraeth i’r cynnig hwn—wel, mae’n gynnig amgen bron, mae’n debyg mai dyna y buasech yn ei alw—rydym yn gwybod nad bwriad yr ailbrisio yw codi refeniw ychwanegol, ac rydym yn gwybod bod ardrethi wedi gostwng ar y cyfan, ond nid yw hynny’n helpu’r busnesau yr effeithiwyd arnynt gan gynnydd yn yr ardrethi. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod y busnesau sydd wedi gweld cynnydd, mewn llawer o achosion, wedi gweld cynnydd sy’n dod â dŵr i’r llygaid. Ddoe, derbyniais e-bost gan etholwr sydd â busnes yn Nhyndyrn, a ddywedodd, ac rwy’n dyfynnu, ‘Gyda phryder, nodaf y cynnydd o 60 y cant yn fy ardrethi busnes, ac rwy’n credu bod hynny’n afresymol, yn anghyfiawn ac yn gwbl ddieflig. Canolfan i ymwelwyr sydd gennym, canolfan na allem ei rhedeg o siop gloi’—Ni fuasai’n bosibl rhedeg y ganolfan o safle ar y rhyngrwyd, yn wir. ‘Nid oes tâl mynediad. Eich penderfyniad’—ac anfonwyd hwn yn benodol at Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a chopi ataf fi—’Eich penderfyniad fydd yn pennu yn y pen draw a fyddwn yn aros ar agor ai peidio.’
Cefais un arall ychydig o ddyddiau’n ôl: ‘Rwyf newydd gael gwerth ardrethol diwygiedig ar gyfer fy musnes, ac oherwydd nad oes cynnydd yn nhrothwy’r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ar hyn o bryd, ar gyfer 2017, bydd fy musnes yn wynebu taliad o bron i £2,500 nad yw’n ei dalu ar hyn o bryd. Ni allaf fforddio’r gost hon a bydd yn golygu bod fy musnes yn cau.’ Mae’r e-bost yn mynd ymlaen i ddweud: ‘A allwch roi gwybod sut y gellir osgoi hyn os gwelwch yn dda, neu dewch i’r arwerthiant cau siop rwy’n bwriadu ei gynnal?’
E-byst torcalonnus ac ingol gan bobl sydd ar ben eu tennyn ers iddynt sylweddoli’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar eu busnesau.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae hon yn sefyllfa ofidus iawn. Os na fydd unrhyw beth yn cael ei wneud, gallem golli nifer o fusnesau bach y flwyddyn nesaf ar raddfa nas gwelwyd o’r blaen, o leiaf yn y rhannau o Gymru lle y gwelir yr effeithiau gwaethaf. Bydd hynny’n cael effaith ganlyniadol ar strydoedd mawr, cyflogaeth a siopwyr. ‘Does bosibl mai dyma’r bwriad. Rwy’n siŵr nad dyma yw bwriad yr ailbrisio na bwriad Llywodraeth Cymru. Mae ein busnesau angen camau gweithredu a sicrwydd, felly rydym yn cefnogi’r alwad i ehangu’r rhyddhad trosiannol sydd ar gael i fusnesau bach yr effeithir arnynt gan yr ailbrisio hwn. Nid ystadegau’n unig yw’r rhain; mae’r rhain yn bobl go iawn gyda bywoliaeth, staff i’w cyflogi, a theuluoedd i’w magu. Mae cael dau ben llinyn ynghyd yn gallu bod yn ddigon anodd, fel y gwyddom, heb y mathau hyn o godiadau yn yr ardrethi.
Fel y mae’r cynnig yn ei ddweud, mae’r system ardrethi busnes gyfredol yn rhoi baich anghymesur ar fusnesau bach yma, o’i gymharu â gweddill y DU. Yn y pen draw, mae hwn hefyd yn fater o degwch. Mae’r Blaid Lafur wedi dweud erioed mai hi yw plaid tegwch—neu arferai ddweud hynny o hyd—felly, nid wyf yn gweld sut y gallwch eistedd yn ôl a chaniatáu i anghyfartaledd o’r fath ddatblygu rhwng y rhai sydd ar eu hennill a’r rhai sydd ar eu colled, yng Nghymru ac yn wir, rhwng Cymru a thros y ffin, lle y gwelsom wahanol becynnau cymorth rhyddhad ardrethi busnes yn cael eu cyflwyno.
I gloi, Lywydd, gan droi’n fyr at rannau olaf y cynnig, rydym yn credu bod gosod targed i gynyddu lefelau caffael yn syniad da. Mae lefelau caffael Cymru gryn dipyn yn is nag y dylent fod. Cyfarfûm â chwmni peirianneg lleol yng Nghas-gwent y llynedd a oedd wedi rhoi’r gorau i wneud cais am gontractau ar yr ochr hon i’r ffin, oherwydd goruchafiaeth cwmnïau mawr yn y broses. Felly, mae angen mwy o bwysoliad tuag at gwmnïau lleol, ac yn wir, buasai strategaeth prynu’n lleol yn ddatblygiad cadarnhaol iawn. Felly, mae llawer o bethau da yn y cynnig hwn. I gloi, hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ei gyflwyno. Gadewch i ni fwrw ymlaen â’r gwaith o adfywio ein strydoedd mawr a darparu cymorth angenrheidiol i’n busnesau lleol, er mwyn iddynt ffynnu, rhoi arian yn ôl i’r economi leol, a gwella’r amgylchedd economaidd lleol i bawb.