Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Mae fy sylwadau i yn ymwneud â chymal 2 yn y cynnig, sy’n cyfeirio at barcio. Mae canol trefi gwag a siopau wedi’u bordio i fyny yn olygfa sy’n llawer rhy gyfarwydd ar draws Cymru, er gwaethaf ymdrechion i fywiogi pethau efo ychydig bach o dinsel a goleuadau’r Nadolig yr adeg yma o’r flwyddyn. Mae dirywiad cyson y stryd fawr ledled Cymru yn ein hatgoffa bod angen strategaeth gan y Llywodraeth er mwyn cefnogi busnesau lleol yn ein cymunedau. Fel yr ydym ni wedi’i glywed, mae’n dod yn gynyddol anodd i fasnachwyr oroesi ar y stryd fawr. Tra bod datblygiadau ar gyrion trefi yn ffynnu, a siopa ar-lein ar gynnydd, mae masnachwyr y stryd fawr yn crefu am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Yn fy etholaeth i, ym Mangor, mae un o bob pum siop yn wag, er mae’n rhaid imi ddweud fod yna arwyddion bod pethau’n gwella er sefydlu’r ardal gwella busnes yn y ddinas.
Mewn tref arall, Caernarfon, stori o ffyniant sydd i’w gweld wrth i fusnesau bach annibynnol, ‘niche’, greu bwrlwm. Felly, nid ydy’r darlun yn un cwbl ddu. Yn dilyn cytundeb ar y gyllideb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, mae cronfa o £3 miliwn wedi cael ei sefydlu a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i beilota defnyddio cyfleusterau parcio ceir am ddim yng nghanol trefi ledled Cymru. Bydd hefyd yn galluogi awdurdodau i asesu gwir effaith hyn ar adfywio canol trefi. Rwy’n prysuro i ychwanegu nad parcio am ddim pob awr o’r dydd pob dydd o’r flwyddyn ym mhob maes parcio ydy’r ateb. I ddechrau, nid yw hynny’n beth realistig, a gallai o hefyd filwrio yn erbyn y bwriad, efo gweithwyr swyddfa yn camddefnyddio’r cynllun, ac yn parcio yna drwy’r dydd, er enghraifft, gan olygu na fydd yna le i bobl sydd am ddod i mewn i’r canol i siopa.
Mae tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru ei hun wedi dangos bod cyrchfannau y tu allan i ganol trefi sy’n cynnig parcio am ddim ar eu hennill ar draul canol y trefi. Mae llawer o gynghorau ledled Cymru yn cynnig parcio am ddim am gyfnod dros ŵyl y Nadolig mewn ymdrech i ddenu pobl i wario yng nghanol eu trefi. Mae Cyngor Gwynedd, er enghraifft, yr wythnos yma wedi datgan ei fod am gynnig parcio am ddim ledled y sir er mwyn hybu mwy o bobl i ymweld â’n trefi ni yn ystod y Nadolig. Ond beth mae ein cynnig ni heddiw yn ei nodi yw ein llwyddiant ni i sefydlu cronfa newydd a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gynnig cyfleusterau parcio am ddim ar adegau penodol mewn trefi ledled Cymru. Ym marn Plaid Cymru, cronfa fyddai hon a fyddai’n galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am grant er mwyn cynnig parcio am ddim am ychydig oriau ar gyfer cefnogi trefi sydd wir angen y gefnogaeth yna. Mi fyddai angen meini prawf penodol er mwyn sicrhau bod trefi penodol yn gymwys. Buaswn i’n meddwl mai’r cynllun gorau fyddai creu pot o bres mae cynghorau wedyn yn bidio amdano, a bod yna feini prawf ar gael ar gyfer y pres. Er enghraifft, byddai cyngor yn rhoi bid i mewn am, dyweder, £100,000 er mwyn gallu cynnig parcio am ddim am dair awr y dydd am flwyddyn mewn maes parcio bychan, hwylus wrth ymyl y stryd fawr, a’r arian wedyn yn mynd yn rhannol i ddigolledu’r cyngor am y ffioedd y maen nhw’n eu colli. Mi fyddai angen i’r bidiau gael eu mesur yn erbyn meini prawf—er enghraifft, stryd fawr sydd wedi colli hyn a hyn o ‘footfall’ ers hyn a hyn o amser, maes parcio a fyddai’n agos at y stryd fawr, ac eglurhad ynghylch pam fod y cyngor yn meddwl y byddai’n gwneud gwahaniaeth. Byddai angen i’r cyngor orfod mesur llwyddiant y cynllun hefyd er mwyn cynyddu’r dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn ag effeithlonrwydd cynnig parcio am ddim er mwyn cynyddu defnydd. Dylai’r gronfa alluogi cynghorau sir i dreialu’r cynllun mewn llefydd penodol.
Dyna amlinellu’n fras rai syniadau ynglŷn â sut y dylid mynd ati rŵan efo’r gronfa, ac fe fyddwn ni’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r trafod yna, os yn bosib, er mwyn i ni ddatblygu cynllun sydd yn hyfyw ac sydd wir yn mynd i gael effaith.
Mae angen strategaeth gyflawn er mwyn adfywio ein strydoedd mawr. Nid ydy cynnig parcio am ddim fel polisi ar ei ben ei hun, wrth gwrs, ddim yn mynd i ddatrys yr holl broblemau. Ond mae angen i’r Llywodraeth fentro efo polisïau fel hwn—polisi amgen, gwahanol—er mwyn ceisio gwrthdroi’r dirywiad hanesyddol.