Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am ildio ar hynny. Fe wnes i ddweud yn fy nghyfraniad fod gostyngiad, ar gyfartaledd, yn yr ardrethi ar draws Cymru. Felly, fe wnes i gydnabod hynny. Fy mhwynt oedd bod y busnesau yn y rhannau hynny o Gymru yr effeithiwyd arnynt wedi cael eu heffeithio’n arbennig o wael. Rwy’n credu mai bod yn hunanfodlon fyddai peidio â chydnabod hynny a rhoi mesurau penodol ar waith ar gyfer y busnesau hynny fel na fydd yn rhaid iddynt ddioddef. Nid ydym am i unrhyw un ddioddef yn sgil yr ailbrisio.