9. 5. Dadl Plaid Cymru: Busnesau Bach

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 30 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 4:22, 30 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac rwy’n cymeradwyo Plaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn gerbron y Cynulliad. Gellir dibynnu ar Adam Price bob amser i fod yn wyneb deniadol ei blaid—[Chwerthin.]—ac mae’n gronfa o syniadau da a diddorol. Ac mae rhai ohonynt yn y cynnig hwn. [Torri ar draws.] Rydych am i mi dynnu’r sylw hwnnw yn ôl. [Chwerthin.]

Dywedodd Edmund Burke,

Nid yw dynion yn gallu trethu yn ogystal â phlesio, fwy nag y gallant garu yn ogystal â bod yn ddoeth.

Mae rhan fawr o’r ddadl heddiw wedi canolbwyntio ar y system ardrethi busnes a hynny’n briodol. Gwrandewais gyda diddordeb ar ymgais Jenny Rathbone i amddiffyn yr hyn rwy’n ei hystyried yn system na ellir ei hamddiffyn i raddau helaeth iawn ac yn sicr, arwydd o dreth wael iawn yw bod cyfran mor fawr o bobl sy’n gorfod ei thalu yn gorfod cael eu rhyddhau rhag talu o leiaf ran o’r baich y mae’n ei osod arnynt. Yr hyn y dylem edrych amdano yw trethi sy’n gysylltiedig â gallu pobl i dalu a dylent gael eu talu gan gynifer o bobl â phosibl ar gyfraddau isel. Ar y sail honno, nid yw trethiant yn rhwystro’r gallu i gynhyrchu cyfoeth a chynyddu ffyniant.

Mae’r rhan o’r cynnig sy’n cyfeirio at wneud Cymru gyfan yn ardal fenter yn sicr yn syniad diddorol ond holl bwynt ardaloedd menter yw eu bod ar gyfer ymyrraeth wedi’i thargedu ar ardaloedd penodol gyda phroblemau penodol. Ond rwy’n frwd o blaid gwneud Cymru’n ardal fenter yn yr ystyr ehangaf. Mewn man arall, yn y 1980au, lle y cefais fy ngharcharu yn Nhŷ’r Cyffredin noson ar ôl noson ar ôl noson o ganlyniad i’r problemau a achosodd ailbrisio eiddo ar y pryd i gyllid llywodraeth leol, fe fuom yn trafod y materion hyn yn fanwl iawn. Ar ôl hynny, pan ddeuthum yn Weinidog dadreoleiddio yn Llywodraeth Major yn y 1990au cynnar, ceisiais ei gwneud yn genhadaeth i droi’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd yn economi gyda lefelau isel o drethiant a rheoleiddio fel y gallem gael y manteision cystadleuol y mae’r cynnig yn cyfeirio atynt ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Felly, yn gyffredinol rwyf o blaid yr ymagwedd y mae Plaid Cymru yn ei mabwysiadu yma.

Mae ardrethi busnes yn fath hynafol o drethiant fel y gwyddom. Nododd Adam y diwrnod o’r blaen eu bod yn mynd yn ôl at ddeddf y tlodion 1601 yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth I. Mae’n rhyfedd, onid yw, y byddwch yn talu mwy mewn trethi os ydych yn gwella eich eiddo? Ond dyna’r ffordd y mae’r system raddio’n gweithio. Felly, mae’n anghymhelliad i bobl wella eiddo. Y ffordd y mae’r economi wedi newid—cyfeiriodd Adam Price at hyn hefyd y diwrnod o’r blaen—gyda thwf y rhyngrwyd, mae eiddo sydd wedi’i leoli mewn lleoliadau penodol ar y stryd fawr yn llai a llai pwysig fel cyfran o’r economi genedlaethol, ac eto, mae’r beichiau sy’n cael eu gosod ar siopau, fel y disgrifiodd Janet Finch-Saunders yn huawdl iawn, wedi dinoethi canol ein trefi o fywyd a bywiogrwydd. Treth wael yn wir sy’n gwagio canol ein trefi a’n dinasoedd, er bod syniadau diddorol fel y nododd Simon Thomas yn Arberth yn sicr yn ymateb i hynny. Ond cyfeiriodd sawl cyfrannwr yn y ddadl hon heddiw at lefel y siopau gweigion yng Nghymru, a gwn fod hyn yn un o’r rhwystrau mwyaf i unrhyw un sy’n ystyried sefydlu busnes; mae’n rhywbeth na allwch ei osgoi, er mai pwrpas y dreth oedd bod yn anosgoadwy a dyna pam ei bod yn dreth ar eiddo. Y ffordd y mae’n gweithio yn awr yw bod y dreth, ydy, yn anosgoadwy ar gyfer yr eiddo, ond nid yw’n anosgoadwy ar gyfer y busnes ac os na all y busnes fforddio lleoli mewn eiddo i dalu’r dreth yn y lle cyntaf, yna mewn gwirionedd mae’n dreth wrthgynhyrchiol iawn yn wir.

Felly, mae’n ymwneud ag anhyblygrwydd y dreth hon yn ogystal, gan nad yw’n ystyried dim o’r newidiadau yn lefelau ffyniant o un flwyddyn i’r llall, sy’n bwysig i’w hystyried. Rydym yn mynd drwy gylch busnes, ond mae’r dreth ei hun yn aros yr un fath ac felly, mewn gwirionedd, pan fo’r economi’n dirywio, mae’n cynyddu’r dirywiad. Felly, mae honno’n ffurf afresymol iawn ar drethiant. Rydym yn mynd drwy’r broses ailbrisio yn awr, ac er fy mod yn gwybod mai’r bwriad yw iddi fod yn niwtral o ran refeniw, fel y nododd Nick Ramsay yn ei araith, mae’n mynd i daro etholaethau penodol yn galed iawn, ac mae Sir Fynwy yn un o’r ardaloedd lle y mae’r cynnydd cyffredinol yn y gwerth ardrethol yn 7 y cant. Mewn gwirionedd, mae’n 9.2 y cant yng Nghonwy i fyny yng ngogledd Cymru, ond mewn ardaloedd eraill, wrth gwrs, mae yna ostyngiadau sylweddol. Mae Bro Morgannwg, er enghraifft, yn cael gostyngiad o 11 y cant yn y gwerth ardrethol a Chastell-nedd Port Talbot yr un fath, ac yn y blaen ac yn y blaen.

Bydd y ffordd y bydd yr ailbrisio’n effeithio ar bobl yn amrywio o le i le. Ond fel rhan o’r cyfle sydd ar ddod i ni ailwerthuso’r ffordd rydym yn trethu eiddo, rhaid i ni edrych go iawn ar atebion arloesol i’r problemau hyn, a mynd ati, fan lleiaf, i drethu gwerth tir yn hytrach na’r adeiladau arno. Felly, rwy’n siŵr mai hon yw’r gyntaf o nifer o ddadleuon o’r fath y byddwn yn eu cael ar y pwnc hwn.