Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 30 Tachwedd 2016.
Diolch i chi am ildio. Rwy’n deall yr hyn rydych yn ei ddweud am broblem cymhlethdod ychwanegol, ac nid oes rhinwedd mawr mewn system syml. Ond serch hynny, mae pobl allan yno mewn busnesau yn fy etholaeth ac mewn etholaethau eraill yn poeni’n ddirfawr am hyn, felly mae angen sicrwydd arnynt. Rwy’n deall bod system yn mynd i gael ei rhoi ar waith ar gyfer rhyddhad ardrethi, ond nid yw pobl yn cael eu calonogi ar hyn o bryd. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi rhywbeth iddynt, dim ond rhywbeth, sy’n mynd i dawelu eu meddyliau.