<p>Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, materion i gyngor Caerdydd yw’r rheini. Yn anffodus, ni wrandawodd ar fy ateb. Yr wythnos diwethaf, dywedodd fod gan y Cynulliad y grym i ddirymu cynlluniau datblygu lleol. Nid yw hynny'n wir; Gweinidogion Cymru sydd â’r grym hwnnw. Yn y ddeddfwriaeth wreiddiol, yn 2004, cafodd y Cynulliad ei grybwyll, ond, wrth gwrs, trosglwyddwyd y pwerau hynny i'r Weithrediaeth yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Felly, unwaith eto, fel y dywedais, nid oes unrhyw bleidlais ar lawr y Cynulliad hwn. Mater i awdurdod lleol yw gwneud cais i ddirymu ei gynllun datblygu lleol, a chyfrifoldeb Gweinidogion Cymru wedyn yw ei ystyried, ac nid y Cynulliad Cenedlaethol ei hun.