1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2016.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Adran 68 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004? OAQ(5)0318(FM)
Gwnaf. Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i ddirymu cynllun datblygu, os bydd awdurdod lleol yn gofyn iddyn nhw wneud hynny.
Iawn. Diolch, Brif Weinidog. Wel, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi ddisgrifio hyn fel lol; mae'n amlwg nad ydyw. Felly, yn gyntaf oll, a wnewch chi dderbyn eich bod chi’n anghywir yr wythnos diwethaf? Ac ail-ofynnaf y cwestiwn a ofynnais yr wythnos diwethaf: a wnewch chi gefnogi, yn y Siambr hon, achub safleoedd tir glas Caerdydd trwy bleidleisio i ddirymu'r CDLl?
Wel, materion i gyngor Caerdydd yw’r rheini. Yn anffodus, ni wrandawodd ar fy ateb. Yr wythnos diwethaf, dywedodd fod gan y Cynulliad y grym i ddirymu cynlluniau datblygu lleol. Nid yw hynny'n wir; Gweinidogion Cymru sydd â’r grym hwnnw. Yn y ddeddfwriaeth wreiddiol, yn 2004, cafodd y Cynulliad ei grybwyll, ond, wrth gwrs, trosglwyddwyd y pwerau hynny i'r Weithrediaeth yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Felly, unwaith eto, fel y dywedais, nid oes unrhyw bleidlais ar lawr y Cynulliad hwn. Mater i awdurdod lleol yw gwneud cais i ddirymu ei gynllun datblygu lleol, a chyfrifoldeb Gweinidogion Cymru wedyn yw ei ystyried, ac nid y Cynulliad Cenedlaethol ei hun.
Brif Weinidog, un o'r problemau gyda chynlluniau datblygu lleol yw bod awdurdodau lleol wedi eu cyfyngu gan y canllawiau a gyhoeddwyd gennych chi a'ch cydweithwyr yn y Cabinet. A’r broblem fawr sydd gennym ni yng Nghonwy a Sir Ddinbych—ardaloedd yr wyf i’n eu cynrychioli—yw bod y gofynion i adeiladu llawer o dai newydd yn gwbl anghynaladwy o ran y seilwaith lleol sydd yno. Beth ydych chi’n ei wneud i wella eich canllawiau ar y seilwaith y bydd ei angen, i sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu, ysgolion a ffyrdd, a gwasanaethau cymunedol eraill, ar gael i'r ardaloedd hynny o ddatblygiad newydd sy'n mynd i gael eu creu?
Wel, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am hynny, ac mae offerynnau ar gael iddyn nhw, wrth gwrs. Mae adran 106 yn eu galluogi i chwilio am fudd cymunedol. Maen nhw’n gallu gweld seilwaith yn datblygu, pa un a yw hynny’n adeiladau fel ysgolion neu ffyrdd, trwy adran 106. Mae'r ardoll seilwaith cymunedol, wrth gwrs—a fydd yn cael ei datganoli yn fuan—yn ffordd arall y gellir sicrhau budd i gymuned leol. Mae'n dibynnu ar ba mor glyfar y mae awdurdod lleol yn barod i fod. Ond ni ddylai fyth fod yn wir bod datblygiad mawr yn digwydd heb unrhyw gyfraniad gan y datblygwyr at seilwaith, ac mae hynny'n rhywbeth y byddem ni’n annog awdurdodau lleol i’w wneud.