Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Wel, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am hynny, ac mae offerynnau ar gael iddyn nhw, wrth gwrs. Mae adran 106 yn eu galluogi i chwilio am fudd cymunedol. Maen nhw’n gallu gweld seilwaith yn datblygu, pa un a yw hynny’n adeiladau fel ysgolion neu ffyrdd, trwy adran 106. Mae'r ardoll seilwaith cymunedol, wrth gwrs—a fydd yn cael ei datganoli yn fuan—yn ffordd arall y gellir sicrhau budd i gymuned leol. Mae'n dibynnu ar ba mor glyfar y mae awdurdod lleol yn barod i fod. Ond ni ddylai fyth fod yn wir bod datblygiad mawr yn digwydd heb unrhyw gyfraniad gan y datblygwyr at seilwaith, ac mae hynny'n rhywbeth y byddem ni’n annog awdurdodau lleol i’w wneud.