Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Brif Weinidog, chi yw’r Llywodraeth. Chi yw'r rhai sydd wedi addo gwelliant. Y rheswm yr wyf i’n gofyn i chi am y gwelliannau hynny yw bod gennych chi hanes o newid y meini prawf yn hyn o beth. Chi yw'r rhai sydd wedi dewis cymryd rhan lawn yn PISA a’i ddefnyddio fel meincnod credadwy. Ym mis Hydref 2014, gwaredwyd y targed o gyrraedd yr 20 uchaf yn y byd erbyn 2016. Cyflwynodd Llafur darged newydd ar yr adeg honno, i gyrraedd y cyfartaledd o 500 o bwyntiau ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth erbyn 2021. A allwch chi ddweud wrthym nawr: a ydych chi’n dal wedi ymrwymo i hynny, neu a ydych chi’n mynd i newid y meini prawf eto?