<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 6 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:41, 6 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n hyderus, pan fydd y canlyniadau PISA nesaf yn dod, y byddwn yn gweld mwy o welliant. Y rheswm pam rwy’n dweud hynny yw oherwydd fy mod i’n sôn am y canlyniadau TGAU a Safon Uwch. Rydym ni’n gweld dechrau’r gwelliant hwnnw mewn mathemateg. Rydym ni’n gweld y bwlch yn cau mewn meysydd fel darllen a gwyddoniaeth. Ond nid yw'n ddigon da—nid yw’n ddigon da. Mae gwaith i'w wneud o hyd.

Rydym ni’n gwybod, mewn gwledydd eraill lle gwnaed gwelliannau, bod y gwelliannau hynny’n cymryd blynyddoedd. Ni ellir gwneud gwelliannau mewn tair blynedd. Ydym, wrth gwrs rydym ni’n cymryd cyfrifoldeb. Ni yw’r Llywodraeth a ymunodd â PISA yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid i ni dderbyn bod PISA yn ffordd y bydd system addysg Cymru yn cael ei mesur. Mae mwy o waith i'w wneud. Bydd yr Ysgrifennydd addysg yn amlinellu hynny’n fanylach pan fydd hi’n gwneud ei datganiad. Rydym ni’n gweld gwelliannau mewn rhai meysydd, ond, na, nid yw pethau fel y dylent fod, ac ni fyddwn byth yn fodlon. Byddwn bob amser eisiau gweld gwelliant yn system addysg Cymru, a dyna'n union yr hyn yr ydym ni’n dymuno ei weld a byddwn yn gweld hynny.