Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Sylwaf o ymateb y Prif Weinidog y bydd yn ystyried ein gallu i gynhyrchu ynni gwyrdd o'r môr fel ased sylweddol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd i Gymru fel cenedl llanw. Wrth i ni aros am benderfyniad Llywodraeth San Steffan am forlyn llanw bae Abertawe, a chroesawu’r fferm ynni'r llanw graddfa fawr gyntaf erioed oddi ar arfordir ynysoedd Orkney, a yw’n ymuno â mi i obeithio y gellir cymryd y camau rheoleiddiol sydd eto i'w cymryd yng Nghymru i fwrw ymlaen â'r morlyn yn gyflym fel ein bod yn cadw ein mantais cynigydd cyntaf? Ac a wnaiff ef gytuno i barhau i adolygu fframwaith ynni adnewyddadwy morol 2011 i wneud yn siŵr ei fod yn cadw’n gyfredol â newidiadau technolegol a newidiadau eraill yn y sector?